Erthygl 'Llith o Canada' o'r Drych 07-07-1889
Disgrifiadau
Erthygl a gymerwyd o’r ‘Drych’, papur newydd a argraffwyd ac a gylchredwyd yn eang yn America. Mae’r erthygl hyn yn enghreifft nodweddiadol o’r straeon llwyddo a ddefnyddwyd i annog y Cymry ym Mhatagonia i ymfudo ac ymgartrefu yng Nghanada. Credwyd ei bod yn rhy ddrud i ‘drwsio’ materion llifogydd a dyfrhau yn y Wladfa, ac felly yn lle hynny cynigiodd llywodraeth Prydain daith â chymhorthdal i Ganada a thir rhad wedi cyrraedd. Nodyn: Mae’r rhain yn drawsgrifiadau cywir o’r erthyglau perthnasol. Nid yw’r wybodaeth a gynigir ar y wefan yn hollol gywir LLITH 0 CANADA. (07-07-1889) Gwlad y Gogledd-Orllewin—I'r Klondyke— Tir Amaethyddol Da-Yn y Maes Cenadol-Personol. GAN J. G. STEPHENS Leduc, Alberta, N. W. T.—Mesura rheilffordd: Cwmni y Canadian Pacific o Montreal i Calgary 2,264 o filldiroedd, ac o Calgary i Leduc, ar y Calgary & Edmonton Branch, y mae 173 o filldiroedd. Edmonton, 18 milldir i'r gogledd oddi yma, yw prif dref gogledd Alberta a'r dref nesaf at y Pegwn Gogleddol ar gyfundrefn y Canadian Pacific Railway. Edmonton hefyd oedd "jumping off place" canoedd o fechgyn dewr o bob parth o'r byd aethant i'r Klondyke y misoedd diweddaf, er budd i fasnachwyr y lle, beth bynag am eu lles eu huniain. Effeithia yr olwg ar y minteioedd yn cychwyn ar eu taith ramantus a pheryglus mewn modd annesgrifiadwy ar fy meddwl. Anhawdd oedd gwybod beth i alw yr anturiaeth mewn amI i amgylchiad, pa un ai y ffolineb mwyaf neu ynte weithred yn arddangos dewrder ac ysbryd anturiaethus o'r fath oreu. Un peth sydd yn lled sicr, fel yr awgrymwyd gan un o ohebwyr galluog y "Drych," sef fod digonedd i'r neb a lafuria yn ddeallgar a diwyd lawer yn nes atom na dyffryn y Klondyke. Gwlad amaethyddol sydd y ffordd yma, a "mixed farming" sydd yn talu oreu, medd y cyfarwydd. Yr wyf yn byw gyda theulu ddaeth yma o North Dakota, bum mlynedd yn ol, heb ddim yn eu meddiant ond dau geffyl, wagen ac ychydig o offer cyffredin. Sefydlwyd ar dir y llywodraeth, 160 erw, yr hwn gawd yn rhad, ac heddiw mae ganddynt 320 o erwau o dir da, 55 erw o dan driniaeth, yr oll wedi ei ffencio; ty byw golygus o chyfforddus; pob machine angenrheidiol wedi talu am dano; stock golew o anifeiliaid-tri o geffylau, 17 o dda corniog, 18 o foch, &c., a pheth arian wedi ei gynilo. Cynyrch y gwahanol ffrwythau ar gyfartaledd yn ystod y pum mlynedd sydd wedi bod fel y canlyn: Gwenith, 43 bwsiel i'r erw; ceirch, 55 bwsiel; haidd, 42 bwsiel; pytatws, 25 bwsiel. Pris y gwenith a'r ceirch y flwyddyn ddiweddaf ar yr elevator nesaf i'r lle, wyth milldir i'r de, oedd 65 cents a 3 cents y bwsiel. Efallai fod y ffigyrau uchod o ddyddordeb i rywrai. Anfonwyd eich gohebydd i'r parthau yma gan Home Mission Committee yr eglwys y perthyn iddi i gyhoeddi y genadwri am y groes. Fe fydd yn dda, gan bob dyn goleuedig, heb son am grefyddwyr proffesedig, fod yr eglwysi, o bob enwad, yn llwyddo yn eu hymdrech i osod stamp grefyddol ar bethau yn y Gogledd Orllewin. Cynrychiolir agos bob cenedl dan haul yn Alberta, heb eithrio y Cymry. Masnachwr llwyddianus yn South Edmonton yw Arthur Davies, hen fyfyriwr o Goleg Aberystwyth, a chanwr o'r sort oreu, ac y mae eraill o'n cenedl yn y dref a'r ardal nad wyf wedi eu cyfarfod hyd yn hyn. Cyn cychwyn am y Gorllewin ymwelais a Chymry New Rockland, Prov. of Quebec, a threuliais awr neillduol o adeiladiol gyda'r brodyr yn y seiat un noson waith, pan oedd y Parch. David Pugh yn llywyddu yn fedrus, a phawb yn cymeryd rhain. Gallwn enwi Mrs. John C. Jones, Mrs. Powell a Mri. John R. Thomas, John W. Williams a Robert Morris. Yr oedd pethau ychydig yn well yn fasnachol yn yr ardal nag oeddynt wedi bod am fisoedd lawer. Gelwais ar bron yr holl o Gymry adnabyddus Montreal cyn ymadael. Drwg genyf fod Undeb Cymreig Montreal wedi marw, neu o leiaf wedi syrthio i drwmgwsg. Y rhai fuont "ffyddlawn hyd y diwedd" oeddynt Thomas Harries, Ysw., Mrs. Pritchard, Mri. David; Thomas, R. T. Williams, Moses Pritchard, Moses Roberts, Richard Jenkins a D. Humphrey, Gwelaf wrth y papyrau fod y Parch. Einion C. Evans, D. D., wedi derbyn galwad i'r Central Congregational Church, Galesburg. Gobeithio y bydd i'r doctor weled yn dda aros yn Montreal canys mae angen dynion mawr yn y ddinas fawr. Yr oedd Annie Williams yn wan iawn pan ei gwelais; cydymdeimlir yn fawr a Mr. a Mrs. R. T. Williams. Y mae yn dda gan bawb yn y wlad yma—ond y cranks—am yr entente cordiale rhwng yr Hen Wlad a'r Wlad Newydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment