Skip to main content

Erthygl 'Helyntion Patagonia' - o'r Drych 14-11-1899

Disgrifiadau

Erthygl a gymerwyd o’r ‘Drych’, papur newydd a argraffwyd ac a gylchredwyd yn eang yn America. Mae’r erthygl hyn yn enghreifft nodweddiadol o’r straeon llwyddo a ddefnyddwyd i annog y Cymry ym Mhatagonia i ymfudo ac ymgartrefu yng Nghanada. Credwyd ei bod yn rhy ddrud i ‘drwsio’ materion llifogydd a dyfrhau yn y Wladfa, ac felly yn lle hynny cynigiodd llywodraeth Prydain daith â chymhorthdal i Ganada a thir rhad wedi cyrraedd. Nodyn: Mae’r rhain yn drawsgrifiadau cywir o’r erthyglau perthnasol. Nid yw’r wybodaeth a gynigir ar y wefan yn hollol gywir Rydym yn credu bod yr erthygl yn ymwneud â'r un digwyddiad ag y mae William Edward Davies yn siarad amdano gyda Glenys James yn ystod eu cyfweliad (rhif recordio: UNLW001-02_s2) pan oedd yn blentyn yn byw ym Mhatagonia. Nid yw’r dyddiadau yn cyfateb ond mae’r enwau yn cyd-fynd â’r wybodaeth a geir yn y recordiad a’r llun yma: https://www.peoplescollection.wales/items/13504 HELYNTION PATAGONIA. (14-11-1899) Boddiad Robert C. Williams – Plentyn ar Goll - Bachgen yn Saethu ei Hun – Gwawr ar y Wladfa. O’R DRAFOD, WYTHNASOL YN Y WLADFA. Ar y 6ed o Hydref, 1899, hebryngwyd gweddillion un o ddynion ieuanc goreu y Wladfa i fynwent y Gaiman, sef gweddillion y brawd John Edward Jones, Bryneglwys, Dyffryn Uchaf, yn 25 ml. oed. Tua pymtheg mis yn flaenorol, ymysododd dolur tra anghyffredin, sef y diabetes arno, ac er pob ymdrech o eiddo meddygion y Wladfa a’r British Hospital yn Buenos Ayres, methwyd a’u gwahanu; ond yn hytrach, gafaelai ei ddolur ynddo yn dynach, dynach, hyd nes oedd yn galed arno gan ei gystudd ac yn amlwg i bawb a fynychai i’w weled ei fod yn gyflym golli tir. Dyoddefodd ei gystudd blin ac anobeithiol yn dawel a dirwgnach, er fod ei serch at ei deulu, ei berthynysau, ei gyfeillion, ac at hoff ardal y Bryn Crwn, yn eithriadol o gryf. Medi 5ed, cyraeddodd gair o Drelew yn hwyr, fod William Edward, mab bychan 4 mlwydd oed i Mr. a Mrs. Henry Davies, Llanerch-ddu, ger Trelew, ar goll. Aeth amryw o Drelew i helpu y teulu i chwillio am y bychan, a buwyd wrthi yn ddyfal yn chwillio drwy y nos, hyd oddeutu 6 o’r gloch bore dranoeth, pryd y cafwyd ol ei droed yn myned i mewn i lyn dyfyn o ddwr. Rhoddwyd i fyny chwillio am ysbaid, aethpwyd i ymorol am gwch, ac wedi cael un, aethpwyd ati drachefn a chafwyd o hyd iddo wedi croesi y llyn dwfr i foncyn uchel, ac yno yr oedd wedi cysgu, ac yn debyg o fod wedi bod yno drwy y nos. Sut yr aeth drwy hen wely mawr gorlif yn llawn o ddwfr sydd ddirgelwch i bawb, ond diameu fod y gogledd-wynt cryf a chwythai ar y pryd wedi ei gario drwyddo yn ddiogel. Dymuna y teulu i ni ddiolch i’r cymdogion am eu gwasanaeth ewyllysgar a llwyddianus, a diau genym yr una pawb i gyd-ddiolch a chyd-lawenhau a hwythau am y waredigaeth gyfryng. Medi 20fed, yn Nhrelew, dygwyddodd damwain ddifrifol i blentyn 15 mis oed y Br. Gwilym Williams, Glandwrlwyd. Rywfodd, taniodd llaw-ddryll oeddid yn gredu oedd yn wag yn y ty, ac aeth y belen i ben y plentyn, ychydig tu uchaf i’r glust ac allan y tu ol i’r pen. Trwy drugaredd, nid oedd yr archoll yn un dwfn, er yn ddifrifol iawn, ac o dan driniaeth law-feddygol fedrus, coleddir gobaith am ei adferiad. Cydymdeimlir yn fawr iawn a rhieni y bychan yn eu trallod a’u gofid. Gweinyddid arno gan Dr. D. G. Davies, Trelew.

Crëwr:
Y Drych Newspaper
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
21/7/2021
Gwelediadau:
467
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment