Erthygl 'Aelodau Seneddol yn dod i Canada' - o'r Drych 07-09-1899
Disgrifiadau
Erthygl a gymerwyd o’r ‘Drych’, papur newydd a argraffwyd ac a gylchredwyd yn eang yn America. Mae’r erthygl hyn yn enghreifft nodweddiadol o’r straeon llwyddo a ddefnyddwyd i annog y Cymry ym Mhatagonia i ymfudo ac ymgartrefu yng Nghanada. Credwyd ei bod yn rhy ddrud i ‘drwsio’ materion llifogydd a dyfrhau yn y Wladfa, ac felly yn lle hynny cynigiodd llywodraeth Prydain daith â chymhorthdal i Ganada a thir rhad wedi cyrraedd. Nodyn: Mae’r rhain yn drawsgrifiadau cywir o’r erthyglau perthnasol. Nid yw’r wybodaeth a gynigir ar y wefan yn hollol gywir Aelodau Seneddol yn dod i Canada (07-09-1899) Ar gymeradwyaeth W.G. Griffith, cynrychiolydd Llywodraeth Canada yn Nghymru, rhoddodd Uchel Ddirprwywr Y Dalaeth yn Llundain, wahoddiad i Lloyd George, A.S., W.J. Rees, Abertawe a Llywelyn Williams M.A., bargyfreithwyr i ymweld a Chanada. Hwylisiant o Lerpwl ar fwrdd y “Bouvarian” y 24ain cynfisol; a bydd iddynt ymweled yn mysg manau eraill a Columbia Brydeinig, a chyrion Klondike. Y mae cynifer o deuluoedd Cymreig wedi ymsefydlu yn Canada, ac fe deimlir cymaint o ddiddordeb yn y Dalaeth, fel y bydd Cymru yn gyffredinol yn awyddus am gael gwybod beth sydd gan y tri wyr mawr hyn i’w ddweyd am y wlad honno. Dywedir hefydd y bydd i W. Jones, A.S., ddyfod dros y Werydd yn yr hydref. Y mae cais wedi ei anfon ato i draddodi cyfres o ddarlithoedd mewn gwahanol fanau yn y Talaethau Unedig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment