Glenys James yn siarad i Glyn and Eirlys Williams.
Disgrifiadau
Glyn Williams sy'n canu ‘Arglwydd arwain drwy'r anialwch,’ i gyfeiliant y piano. I ddilyn, ceir cyfweliad rhwng Glenys James a Mrs Eirlys Williams sy'n cynnal sioe cerddoriaeth 'Gymreig' fisol ar orsaf radio CKUA Radio. Â hithau wedi'i geni yng Ngogledd Cymru ei hun, symudodd Mrs Williams gyda'i theulu i Ganada yn 1914. Mae'n chwerthin am y ffordd na fu i wrandawyr yn y gorffennol allu ynganu ei henw, ac iddi felly ddefnyddio enw ei gŵr, ‘Len’. Â hithau wedi trefnu'r rhaglen am yr 20 mlynedd ddiwethaf, yr enw gwreiddiol ar y sioe oedd ‘Old Country Melodies’ ac wedi mynd i'r Gymanfa Ganu genedlaethol yn Salt Lake City, gofynnodd rheolwr yr orsaf iddi gymryd awenau'r sioe. Dywed iddi ei chael yn anodd cael hyd i gerddoriaeth Gymraeg, ac ar ôl mynd ar daith i Gymru iddi ganfod nad oedd llawer o'r copïau o gerddoriaeth draddodiadol y wlad yn ddigon da i'w darlledu. Fodd bynnag, roedd y twf ym mhoblogrwydd y Gymanfa Ganu yn y dalaith yn gymorth i lenwi'r amser ar yr awyr. Trafoda sut y mae'r sioe wedi bod yn gyfle i addysgu gwrandawyr am y Gymraeg, ei hanes a'i harferion.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment