Skip to main content

Glenys James yn siarad i Dr John Hughes.

Disgrifiadau

Mae Glenys James yn siarad â Dr Hughes a ymfudodd o Affrica i Ganada ddeugain mlynedd cyn hynny. Teimlai fendith yn ei fywyd yng Nghanada. Trafoda'r gymdeithas Gymraeg a'r corau yn yr ardal sy'n falch o roi'r croeso traddodiadol Cymraeg i ymwelwyr ac ymfudwyr i'r ardal. Roedd wedi symud i Ganada i weithio yn y Brifysgol leol i ddechrau, ac mae'n pwysleisio rôl y gymdeithas Gymraeg wrth groesawu i'r ardal. Dywed iddo gymryd pob cyfle i addysgu pobl, yn enwedig ei fyfyrwyr (yn Affrica a Chanada) am Gymru. Yn gyfaill mawr i D J Williams cofia am ansawdd ragorol ei waith. Roedd ganddo gysylltiad agos ag Eisteddfodau ac mae ganddo atgofion annwyl am arwain côr yn Eisteddfod Abertawe, lle cafodd ei dderbyn i'r orsedd yn y 'wisg wen'. Disgrifia Dr Hughes sut y mae'n trysori'r eitemau y daeth â nhw o Gymru, a bod bwyd Cymreig yn elfen gyson o ddeiet ei deulu. Mae'n canu caneuon gwerin Cymraeg ac yn adrodd penillion a ddysgodd yn blentyn. Yn ei Gapel, disgrifia sut y mae'r gynulleidfa yn rhyw 6 dilynwr ffyddlon, a bod yr oedfaon a'r caneuon yn Saesneg, er eu bod o dras Gymraeg. Mae John Williams yn dilyn trwy adrodd sawl pennill traddodiadol a stori ddoniol.

Owner:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Glenys James
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2021
Eitem wedi’i llwytho:
6/7/2021
Date originally created:
26/5/1974
Gwelediadau:
603
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment