Glenys James yn siarad i'r Parchedig Elwyn Hughes a Dave Roberts.
Disgrifiadau
Mae'r Parchedig Elwyn Hughes yn rhoi hanes manwl Eglwys Dewi Sant, a sefydlwyd yn 1907 yn Nhoronto. Disgrifia sut yr unodd eglwysi'r Presbyteriaid, y Methodistiaid a'r Annibynwyr i ffurfio un corff ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Nid oedd llawer o'r rheiny a ymfudodd i Ganada yn wreiddiol yn hyderus i siarad Saesneg ac felly roedd yr eglwys yn noddfa i'r gymuned. Rhoddodd y bai ar ffactorau fel y cynnydd ym mhrisiau tai yn yr ardal am achosi i'r gynulleidfa wasgaru ymhellach i ffwrdd o’r Eglwys, yn ogystal â phoblogaeth a oedd yn heneiddio am leihau presenoldeb yn yr oedfa. Trafododd hefyd golled gynyddol y Gymraeg a diwylliant Cymru yn yr Eglwys, gan fynegi ei dristwch ynglŷn â hyn. Mae Glenys James yn dilyn gyda chyfweliad â Dave Roberts, o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol. Collodd ei dad pan yn faban ac felly cafodd ei fagu gan ei fam-gu a'i dad-cu. Hyfforddodd fel saer i gychwyn, ond heb gyflog na chyfleoedd da am waith, ei opsiynau oedd ceisio gwell ffortiwn yn Llundain neu Ganada. Ar gyrraedd Gogledd America, llwyddodd i gael gwaith ymhen deufis. Ei gyngor gan ei fam-gu ar adael oedd ymuno â Chapel ar unwaith, a dyna a wnaeth. Cofia'n annwyl am werth y Capel i fro ei febyd nôl yng Nghymru. Trwy ei gyfraniad at drefnu Eisteddfodau yng Nghanada, disgrifia sut y cynigiodd yr ŵyl gyfle i bobl ar bob lefel ar draws disgyblaethau lawer gymryd rhan a dysgu am ddiwylliant Cymru. Mae'n diolch i'r eglwys Gymraeg am ei alluogi i gadw'i Gymraeg dros y blynyddoedd. Teimla fod yr oedfaon Cymraeg yn cyfleu gair Duw yn well na'r Saesneg, ac mae'n mwynhau'r oedfaon yn well. Mae hefyd yn canu 'Y Gwcw Fach' ac yn adrodd cerddi y mae'n eu cofio o'i blentyndod.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment