Skip to main content

Glenys James yn siarad i Joe Thane.

Disgrifiadau

Mae Glenys James yn siarad â Joe Thane sy'n dechrau canu cân draddodiadol a ddysgodd yn yr ysgol yn Nhredegar. O ganlyniad i'w rhan yn yr undebau a cholli teulu a ffrindiau dan ddaear, teimlai dan ormes yng Nghymru. Ynghyd â dros 10,000 o lowyr, derbyniodd y cynnig i symud i Ganada, i gywain y cynhaeaf i ddechrau, ond yn y pendraw i geisio gwaith. Teimlai Mr Thane fod llawer o iaith a diwylliant Cymru wedi cael eu colli ymhlith y gwladychwyr am nad oedd yr iaith wedi cael ei haddysgu'n ddigon da yn yr ysgol ac felly nid oedd wedi cael ei throsglwyddo at eu plant. Noda'r diffyg cymysgu rhwng y 'Cymry gweithiol' a'r 'Cymry deallus' hefyd fel rhan o'r rheswm dros farwolaeth yr iaith. Fodd bynnag, cadwodd gymaint o gofbethau o Gymru â phosibl, o sanau gwlân i recordiau, ac o bapurau newydd i lestri, er mwyn diogelu'r atgofion o ‘gartref’. Cwestiyna ymgyrch llywodraeth Canada i helpu gwarchod diwylliannau ethnig lleiafrifol yng Nghanada. Ailadrodda'i ddymuniad i fod yn Ganadiad yn gyntaf ond ei bod yn hanfodol bwysig cadw'r Gymraeg ac arferion Cymru.

Owner:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Glenys James
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2021
Eitem wedi’i llwytho:
6/7/2021
Gwelediadau:
622
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment