Glenys James speaks to Charlie Davies, Mrs. T T and Eddie Evans.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â Charlie Davies. Wedi symud i Ganada yn 1913, roedd eisiau dychwelyd i Gymru i gychwyn, oherwydd diffyg cyflogaeth. Collodd ei allu i ddefnyddio'r Gymraeg wedi iddo golli ei gysylltiad â'r gymuned Gymraeg. Mae Glenys hefyd yn siarad â Mrs T T Evans a'i mab Eddie, yr oedd eu teulu wedi ymfudo i Batagonia o Ddolgellau yn wreiddiol. Mae'n sôn sut y bu iddi ddysgu Sbaeneg yn ogystal â'r Gymraeg yn yr Ysgol yn y wladfa i ddechrau. Yna, symudodd y teulu i Ganada yn 1902 ac mae Mrs T T Evans yn cofio am eu gaeaf caled cyntaf. Mae'n dweud mai dysgu ei phlant i siarad Cymraeg yn ifanc, eu hannog i gymryd rhan mewn Eisteddfodau a'u hanfon i'r Capel a'r Ysgol Sul sy'n gyfrifol am eu gallu i ddal gafael ar y Gymraeg. Disgrifia hefyd ei chwpan Mate y daeth ag ef gyda hi o Batagonia, ac adrodda ambell i gerdd Gymraeg ac ambell i air Sbaeneg a ddysgodd yn blentyn. Yn olaf, mae Mary Lewis yn cael ei chyfweld eto am ymfudiad ei theulu o Fangor yng Ngogledd Cymru, i Batagonia, ac yna ymlaen i Ganada yn 1908. Siarada am y gymuned Gymraeg yng Nghanada, a'r cyfuniad o ddylanwadau a ffurfiodd y wladfa ym Mhatagonia.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment