Glenys James yn siarad i Mary ac Elvet Lewis.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â Mary Lewis am Eisteddfodau, cymuned y Capeli Cymraeg a sut yr oedd canu yn dod â chymuned Cymry Canada ynghyd. Â hithau yn athrawes ysgol Sul ei hun, addysgodd ei phlant ei hun i ddarllen Cymraeg ac i siarad Cymraeg, ond mae cynnydd y Saesneg ac ieithoedd eraill yn yr ardal wedi arwain at ostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg. Yn Saesneg, mae'n rhoi hanes manwl eglwys Gymraeg yn yr ardal. Cofia sut yr oedd ei rhieni wedi dod i'r penderfyniad i ymfudo i Ganada o'r wladfa ym Mhatagonia fel na fyddai'n rhaid i'w dau fab fynd i'r fyddin. Mae Glenys James hefyd yn siarad ag Elvet Lewis a anwyd i rieni Cymraeg yng Nghanada. Er na addysgwyd y Gymraeg iddo, cafodd ei frodyr a'i chwiorydd ddysgu Cymraeg. Cofia am Seisnigo'r Eisteddfodau yn y wladfa.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment