Glenys James yn siarad i John, Megan a Ken Thomas.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â John Thomas a ymfudodd i Ganada yn 1926 o Gymru. Ei fwriad gwreiddiol oedd symud ymlaen i Awstralia, ond cyfarfu â'i ddarpar-wraig, Megan, yn y Capel Cymraeg yng Nghalgary. Â hwythau bellach wedi setlo ar fferm y teulu yn Saskatchewan, mae'r teulu Thomas yn cadw'r gorffennol yn llythrennol ac yn ffigurol, trwy barhau i siarad ac i ysgrifennu yn Gymraeg, mynychu’r Capel a gwrthod adnewyddu'r fferm o'i ffurf wreiddiol! Mae ei wraig, Megan, yn hel atgofion am ei magwraeth Gymraeg yng Nghalgary. Mae ef yn trafod yr hyn sy'n wahanol a'r hyn sy'n debyg rhyngddyn nhw fel ymfudwyr o Gymru, a'r rheiny o Batagonia, yn ogystal â'r traddodiadau o'r wladfa sydd wedi cael eu cymhathu i gymuned Cymry Canada. Mynega hefyd ei dristwch ynghylch colli'r iaith ymhlith y genhedlaeth newydd. Disgrifia ei fab, Ken, ei argraffiadau ef o'r henwlad, a'i ymdrechion i gadw'r iaith.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment