Glenys James yn siarad i Meredydd Rees a Jennie Sanders.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â Meredydd Rees a ymfudodd i Ganada yn 1902 yn 12 oed, gyda'i deulu o 13 o frodyr a chwiorydd a'u rhieni. Cofia am yr estrysod a'r armadilod y byddai'n eu gweld yn blentyn wrth farchogaeth allan ar y Pampas. Trafoda sut yr oedd siarad Cymraeg yn dal llawer o'r wladychwyr newydd yng Nghanada yn ôl yn yr ysgol. Fel llawer o deuluoedd, bu'n rhaid iddynt adeiladu eu 'tŷ tywarch' eu hunain er mwyn goroesi'r gaeafau oer, caled cyntaf. Mae'n canu 'Catalina' ac anthem genedlaethol yr Ariannin yn Sbaeneg, ac yna 'Y Bechgyn yn Gyrru'r Wedd', 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn', ac yn nes ymlaen 'Caersalem' yn Gymraeg. Siarada am y cyfuniad o ddiwylliannau Gogledd a De Cymru a ddatblygodd ym Mhatagonia, a hefyd addasu i ddefnyddio'r Saesneg yng Nghanada. Caiff Jennie Sanders, yr ymfudodd ei theulu o Lanrwst, ei chyfweld hefyd. Siaradwyd Cymraeg gartref ac yn y Capel, ac felly fe'i cadwyd yn fyw trwy gydol ei chenhedlaeth hi. Mae'n adrodd 'Johnny bach yr Hafod' y'i dysgodd ar gyfer Eisteddfod leol pan yn blentyn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment