Skip to main content

Cyfweliad Mike Phillips â Tom Jones [Saesneg]

Disgrifiadau

Mike Phillips, yn cael ei gyfweld gan Tom Jones. Daeth i Gymru ar ôl hyfforddi fel peiriannydd. Ar ôl mynychu'r Ysgol Goedwigaeth, ei swydd gyntaf oedd yn Nhywi lle'r oedd yn gyfrifol am Panyfedwen. Mae'n sôn am ffermydd yn yr ardal a digwyddiadau cofiadwy. Mae hefyd yn crywbwyll canolfannau Llu Awyr America. Yn ystod y cyfweliad, trafodir y pynciau canlynol: ei hyfforddiant fel peiriannydd; y penderfyniad i fynd yn goedwigwr; yr ysgol goedwigaeth yng ngogledd Cymru; ei anfon am y tro cyntaf i weithio yng nghoedwig Tywi yn 1955; bod yn gyfrifol am Panyfedwen; barcutiaid coch; dal brain; llwytho yn Diffws; 'bara te'; gweision fferm; Panyfedwen; cwympo coed am y tro cyntaf – annisgwyl; Nantllwyd – Maesglas; Soar y Mynydd; Fanog; fferm yn cael ei gwerthu a'r tai allan yn cael eu defnyddio gan y Comisiwn Coedwigaeth; dyletswyddau cyffredinol; I. O. Evans yn mynd ar goll; merch wedi'i hanafu – wedi'i thaflu gan geffyl; gweithio gyda siaradwyr Cymraeg; symud i Dregaron; teimlo'n drist yn symud o Tywi; Ysgol Goedwigaeth Gwydyr – y brif agwedd oedd cost a ffyrdd economaidd; ymddygiad swnllyd; ymweliadau cyfnewid – gwahanol amgylchiadau a brofir; canolfannau Llu Awyr America.

Mae'r mynegai, y ffurflen ganiatâd a'r nodiadau am y cyfweledig (YF11) yn cael eu dal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Owner:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales ; Hanes y Goedwig = The story of the forest. MD 333
Crëwr:
Comisiwn Coedwigaeth Cymru / Forestry Commission Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2002
Eitem wedi’i llwytho:
22/6/2021
Date originally created:
19/8/2002
Gwelediadau:
614
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment