Cricieth - Y tân rhyfedd
Disgrifiadau
Cricieth - Y Tân Ddieithr.
(Allan or Y Gestiana gan Alltud Eifion)
Will o the Wisp, Jack o Lantern neu Marsh Gas
Bu ym Morfa Bychan (yn ôl yr hanes), ac yn symud i sir Feirionydd bryd arall, dân rhyfedd yn y flwyddyn 1693. Oddeutu'r gwyliau yr ymddangosodd, a llosgodd ar y 24ain o Ragfyr, ddas o wair i Richard Davies, Erw Wen; un i Richard Griffith, Llechwedd Dû ac un i Humphrey Owen, y Garreg Wen y Gest. Ar noson y 27ain y llosgodd das wair i John Philips, Ynys Llanfihangel a dwy das i John Griffith Owen Cefn Trefor Bach, dwy das i Catherine Williams, Cefn Trefor Fawr, ac un i Francis Evans, Glasfryn. Ar ôl hynny, llosgodd beudy, ac ynddo lawer o wair i Richard Davies or Erw Wen. Bu effaith y tân mor niweidiol a gwenwynig ar Dyddyn Sïon Wyn dros dair blynedd nes y byddai farw pob creadur a borai arno, yn ogystal âr adar a fwytaent ar hyd-ddo. Math o darth tanllyd ydoedd ac yn codi or corsydd gwlybion tywodlyd yn y Morfa Bychan ac yn croesi y Traethi Ynys Llanfihangel, Morfa Harlech, a glan y Traeth Bach. Yr ydoedd yn bur ddyeithrol, ac yn peri syndod a braw. Rhyw fflam las fechan ydoedd yn ymddangos yn hawdd ei ddiffodd tebygid; ac ni wna i ni wedi sawl a fyddai yn ei ganol yn ymdrechu rhwystro'r gwair ar dân. Yr oedd yn wahanol iawn yn ei natur i dân arall ar distryw a wnaeth fyddai yn y nos. Bu farw gwartheg, ceffylau, geifr, moch ac ati gan y gweddillion a adawodd ar y ddaear, a pharhasant i farw felly am hir amser. Or diwedd canfuwyd fod s?n yn effeithio arno; a phan welid y tân yn dechrau, casglwyd pawb at ei gilydd a chenid cyrn, curid tabyrddau, a saethid gynnau a pharai'r s?n ar cynnwrf i ddod y chaur awyr fel na wnaed niwed. Ychydig o golledion a gaed wedi cael y ddyfais hon; ond bun ymddangos am gryn amser ar nos Sadyrnau a nos Suliau. Cred y bobl y pryd hynny
oedd, mai'r tyddynwr oedd yn byw yn Nhyddyn Sïon Wyn, yr hwn a droesid allan, ac a melltithiodd, neu a witsiodd y fan!! Daliwyd a dygwyd ef o flaen yr Ustus, ond nid oedd yr un yn nes na Phenarth, neu'r Wern Fawr yn Sir Gaernarfon; ac wrth fyned ag ef, gorfur cwnstabliaid (Rowland Pritchard, yr Ynys Du oedd un ohonynt) letya yn Llanystumdwy, a dihangodd yntau drwy ffenestr y nos honno ac ni welwyd ef mwy. Barn yr hanesydd Thomas Pennant, yn y flwyddyn 1781, oedd ir tân hwn gael ei achosi gan haid o locustiaid a chwythwyd gan storm or gorllewin, a boddasant, ac a ddaethant ir lan ym Morfa Bychan. Dechreuodd eu cyrff i bydru achosi nwy gwenwynig i godi ac yna yn mynd ar dân.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment