Skip to main content

Rhybudd: Mae'r eitem hon yn cynnwys deunydd (testun, delweddau neu sain) sy'n hiliol, sy'n sarhaus neu sy'n niweidiol mewn ffordd arall.

Castell Penrhyn

Disgrifiadau

Adeiladwyd y maenordy gwreiddiol ar y safle hwn yn nechrau'r bymthegfed ganrif. Rhoddwyd trwydded frenhinol i Syr Gwilym Gruffydd yn 1438 yn rhoi caniatad iddo roi crenelau ar y t? ac ymestyn yr adeilad drwy ychwanegu twr caerog ato. Roedd hwn yn adeilad sylweddol a ddisgrifiwyd mewn cerdd o'r bymthegfed ganrif gan Rhys Goch Eryri. Fe'i cofnodwyd hefyd mewn darluniau a wnaed gan y pensaer Samuel Wyatt cyn iddo gael ei addasu'n sylweddol iawn gyda'i gynlluniau ef ar gyfer plasty Gothig i deulu'r Penrhyn yn 1782. Mae'n ymddangos fod y cynllun hwn wedi cadw cromgell yr islawr, y twr gyda'i risiau troellog a'r neuadd fawr o'r cynllun canoloesol, yn ogystal ag adlewyrchu arddull ganoloesol yr adeilad gwreiddiol. Cafodd yr adeilad presennol ei greu gan y pensaer Thomas Hopper rhwng 1822 a 1837 i George Hay-Dawkins Pennant, a oedd wedi etifeddu ystad y Penrhyn ar ol ei gefnder, Richard Pennant. Roedd Pennant ei hun wedi priodi i deulu'r Penrhyn ac wedi gwneud ei ffortiwn wedi hynny drwy'r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a phlanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Gwnaeth gaethiwo bron 1,000 o bobl ar draws ei bedair planhigfa. Roedd Hay-Dawkins Pennant hefyd yn berchen ar bobl a oedd wedi’u caethiwo, a chafodd £14,683 gan y llywodraeth pan gafodd yr arfer ei ddileu. (I gael rhagor o wybodaeth am sut y cafodd cyfoeth a enillwyd o’r fasnach gaethweision dros yr Iwerydd ei ddefnyddio i adeiladu Castell Penrhyn, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden/castell-penrhyn-a-hanes-fasnach-gaethwasiaeth.)* Yn wahanol i benseiri eraill cestyll ffug y cyfnod Rhamantaidd a Fictoraidd cynnar, penderfynodd Hopper beidio a defnyddio'r arddull Gothig ffasiynol ond, yn hytrach, fynd am arddull neo-Normanaidd. Aeth ei weledigaeth o arddull Normanaidd tu hwnt i bensaerniaeth bur, gan ymestyn i'r gwaith plaster caboledig ac addurniedig a ddefnyddiwyd yn y llyfrgell, y neuadd fawr a'r grisiau. Roedd y dodrefn hefyd yn adlewyrchu'r arddull hon. Gwaetha'r modd, dim ond am dair blynedd arall y bu George Hay-Dawkins Pennant fyw ar ol i'r gwaith adeiladu o bymtheg mlynedd yn y castell ddod i ben. Yn 1859, arhosodd y Frenhines Fictoria a'r Tywysog Albert yn y castell yn ystod un o'u hymweliadau prin a Chymru. Fodd bynnag, gwrthododd y frenhines gysgu yn y gwely llechen mawr yr oedd teulu'r Penrhyn wedi ei gomisiynu'n arbennig ar gyfer yr achlysur, gan ei fod yn ei hatgoffa o fedd. Tua'r amser yma hefyd y dechreuodd yr ystad agor ei gatiau yn rheolaidd i grwpiau o dwristiaid, a dalai am gael eu harwain drwy'r ystafelloedd ysblennydd a'r gerddi helaeth gan yr howsgiper. Aelod olaf teulu'r Penrhyn i fyw yn y castell oedd Hugh Napier Douglas-Pennant, a fu farw yn 1949. Aeth y castell a'r gerddi'n eiddo i'r Trysorlys yn 1951 a heddiw maent dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal a'r gosodiadau mewnol a dodrefn sydd wedi eu diogelu yno, mae'n gartref hefyd i un o gasgliadau celf gorau Cymru.  

* Cafodd y disgrifiad hwn ei ddiweddaru ym mis Mawrth 2024. Yn unol â’r ‘Rhestr o Derminoleg Gynhwysol’ (1.1. Hanes America Affricanaidd A Masnach Mewn Caethweision Yr Iwerydd https://docs.google.com/document/d/1G9VJIEIkGQVJDl0Sbw2nI_cCJVkNdUZM/), cafodd y gair ‘caethwasiaeth’ ei ddisodli gan frawddeg sy’n nodi sut a ble y gwnaeth Pennant gaethiwo pobl er mwyn crynhoi cyfoeth, a chafodd dolen gyswllt â gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei hychwanegu er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am hanes trefedigaethol y Castell. 

 

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
26/3/2021
Gwelediadau:
1211
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment