Skip to main content

Rhestr o gaethweision a stoc ar ystâd teulu'r Pennant, Jamaica, 31 Rhagfyr 1812 [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Rhestr o'r caethweision a'r anifeiliaid ar ystadau Penrhyn yn Jamaica, dyddiedig 31 Rhagfyr 1812. Bu cysylltiad rhwng teulu'r Pennant, a hannai o Sir y Fflint yn wreiddiol, â'r diwydiant cynhyrchu siwgr a'r fasnach gaethwasiaeth broffidiol yn India'r Gorllewin ers canol yr ail ganrif ar bymtheg. Ehangwyd yr ystadau dan arweiniad Edward Pennant (1672-1736) a ddaeth yn Brif Ustus Jamaica. Dychwelodd ei feibion, Samuel (1709-50), John (m. 1781) a Henry Pennant (1713-82) i Brydain lle cafodd John yrfa lwyddiannus fel masachwr yn Lerpwl, prif borthladd y fasnach siwgr ym Mhrydain.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd y brodyr Pennant brynu a sicrhau eiddo ym Mhrydain gan uno ystâd rhanedig y teulu. Ym 1765 priododd mab John, sef Richard Pennant (1739-1808) ag Anne Susannah Warburton, etifeddes un rhan o ystadau'r Penrhyn. Yn dilyn marwolaeth ei dad, aeth Richard Pennant ati i ddefnyddio'r elw a ddeuai o'r planhigfeydd siwgr i ddatblygu ystadau'r Penrhyn yn Sir Gaernarfon. Trôdd Richard ei olygon at y chwareli llechi a oedd yn yr ardal ac aeth ati i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y chwareli a'r porthladd newydd a sefydlodd ym Mhorth Penrhyn. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, lleisiodd ei farn yn huawdl o blaid y fasnach gaethwasiaeth a fu mor broffidiol i'w deulu. Bu farw ym 1800, gan adael ei eiddo i'w gefnder, George Hay Dawkins (1764-1840), a etifeddodd yr ystâd yn dilyn marwolaeth Arglwyddes Penrhyn ym 1816. Dan arweiniad Dawkins-Pennant, datblygodd ystad y Penrhyn yn un o'r tirfeddiannwyr a'r perchennog chwareli mwyaf pwerus yng ngogledd Cymru.

Owner:
Department of Manuscripts and Archives, University of Bangor
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Adran Archifau a Llawysgrifa
Copyright Details:
Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor 2010
Publisher Ref:
GTJ18403
Eitem wedi’i llwytho:
26/1/2010
Date originally created:
31/12/1812
Gwelediadau:
5031
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment