Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli
Llun 1: Y cledd yn y wain, Trefin, yr Archdderwydd yn cyflwyno, a'r bardd coronog, y Parch. D. Emlyn Lewis, yn ddiymhongar yn deryn teyrnged frwd y dorf.
Llun 2: Yr Archdderwydd, Trefin, yn llongyfarch y bardd coronog, y Parch. D. Emlyn Lewis.
Llun 3: Y bardd coronog.
Llun 4: Y bardd coronog yn cael ei dywys o'r Pafiliwn gan Trefin, yr Archdderwydd.
Llun 5: Yr bardd coronog, a Dilwyn Miles, Ceidwad y Cledd.
Llun 6: Pabell Cymdeithas Cymry Llundain ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 7: Enillwyr yng nghystadleaethau'r ysgrifau y Gymraeg yn iaith gyntaf ac ail yw Elizabeth Davies, Llanelli; Ann Grey, Llanelli; Colin Evans, Cynnwyl Elfed; Terry Pike, Llanelli; ac Yvonne Davies, Caernarfon.
Llun 8: Parti o ddatgeinwyr poblogaidd yw "Bois y Blacbord", a phob un ohonynt yn athro yn Sir Gaerfyrddin. I'r parti hwn y rhoddwyd yr anrhydedd teilwng i ganu cywydd agor yr eisteddfod ddydd Llun, gyda Alun y Marian yn delynor.
Llun 9: Cor Rhydaman, dan arweiniad Mr Hywel Evans, a enillodd gwpan "Y Cymro" a �200 yn y brif gystadleuaeth gorawl.
Llun 10: Dau yn paratoi'r llwyfan ar gyfer yr anterliwt ar faes yr eisteddfod yn Llanelli yw Emyr Jones a John Hefin Evans, Llandysul.
Llun 11: John Hefin Evans, Eleri Hopcyn, Dennis Roberts, Emyr Llew Jones, Llinos Jones, Non Watcyn Jones, Geraint Morris, An Britton a Leonard Richards. Cynhyrchwyd yr anterliwt gan Miss Norah Isaac.
Llun 12: Dwy aelod o gast Anterliwt Twm o'r Nant.
Llun 13: Perfformio Anterliwt Twm o'r Nant.
Llun 14: Glyndwr Evans, Marchlyn, Pennal, yn cystadlu i ennill yr unawd cerdd dant i rai o 18 i 25 oed, gyda Gwenllian Dwyryd yn delynores.
Llun 15: Ymgeisiodd tri cor yn y brif gystadleuaeth gorawl am gwpan "Y Cymro" a chyfanswm o �350 yn wobrau a roddwyd gan Ymddiriedolaeth Edwin Stephen Griffiths. Yn dal y cwpan y mae Mr Hywel Evans, arweinydd Cymdeithas Gorawl Rhydaman, y cor buddugol, gyda Mr Harding Jenkins, arweinydd Llwynhendy, oedd yn ail, a Mr Haydn Thomas, arweinydd cor Sciwen, y trydydd.
Llun 16: Dyfarnwyd Gildas Martin, Clydach, ac Eric Davies, Ferryside, yn gyfartal cyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd i fechgyn o 12 i 16 oed. Barnai Mr John Hughes, y beirniad, bod y gystadleuaeth wedi bod yn un ddiddorol ond braidd yn siomedig.
Lluniau 17 - 18: Cyd-ddigwyddiad hapus yn Llanelli yw bod tri arweinydd yr Eisteddfod, sef y Parch. Meic Marri a'r Mri I. B. Griffith a W. R. Evans yn gyn gyd-fyfyrwyr yng ngholeg Bangor.
Llun 19: Cyflwynwyd medal aur celfyddydau cain yr Eisteddfod er anrhydedd i Joseph Herman, gan J. Ingli Williams, cadeirydd Pwyllgor Celfyddyd a Chrefft Llanelli.
Llun 20: Y Seremoni Agoriadol. Dr H. D. Llewellyn, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Syr Keith Joseph, y gweinidog dros faterion Cymreig, y Fonesig Joseph a Maer Llanelli yr Henadur William Davies.
Llun 21: Syr T. H. Parry-Williams, Llywydd Llys yr Eisteddfod yn cyflwyno model o'r pafiliwn i Dr H. D. Llewellyn, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod.
Llun 22: Syr Keith Joseph yn ymweld a'r Arddangosfa Celf a Chrefft yng nghwmni Dr H. D. Llewellyn, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Llanelli.
Llun 23: Agorwyd yr Arddangosfa Celfyddyd a Chrefft ddydd Llun gan Mr Clifford Evans (Bronwydd), ac yn eistedd ar y dde iddo mae Mr Joseph Herman, enillydd y Fedal Aur.
Llun 24: Clifford Evans (Bronwydd) yn agor yr Arddangosfa Celf a Chrefft ac yn llongyfarch Mr Joseph Herman, enillydd y Fedal Aur.
Llun 25: Enillwyd y gystadleuaeth adrodd i rai o 15 i 18 oed gan Norman Williams, Rhosgadfan.
Llun 26: Yn yr arholiadau ar hanes Gorsedd y Beirdd enillodd Menna Owen, Garndolbenmaen, yr ail wobr, a chyflwynwyd hi i'r Archdderwydd Trefin gan Cynan, y darpar-Archdderwydd, ar lwyfan yr wyl.
Llun 27: Yn ddiogel o fygythiadau'r tywydd -- aelodau newydd yr Orsedd yn gysurus mewn seddau sinema yn disgwyl yr alwad i'r Maen Llog.
Llun 28: Oherwydd y tywydd daliodd aelodau'r Orsedd fws i Sinema'r Regal lle cynhaliwyd y seremoni.
Lluniau 29 - 30: Aelodau newydd yr Orsedd yn disgwyl yr alwad i'r Maen Llog.
Llun 31: Aelodau newydd o'r Orsedd yn cael eu cyflwyno gan Cynan.
Llun 32: Aelodau newydd yr Orsedd yn cael eu llongyfarch gan yr Archdderwydd Trefin.
Llun 33: Y darpar-Archdderwydd, Cynan, yn darllen gweddi'r Orsedd.
Llun 34: Aelodau o'r Orsedd yn gadael y llwyfan.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
1129
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment