Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glynebwy, 1958
Llun 1: Mr D Llewelyn Jones, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, bardd y goron.
Llun 2: Mr D Llewelyn Jones, bardd y goron.
Lluniau 3 - 4: Mr D Llewelyn Jones, bardd y goron, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r coroni.
Llun 5: Mr D Llewelyn Jones, bardd y goron, yn gadael y Pafiliwn yng nghwmni'r Archdderwydd.
Llun 6: Cor Ysgol Sir Brynhyfryd, Ruthun, a hyfforddwyd gan Mr Aled Lloyd Davies, a fu'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cor Penillion Plant Deulais, dan 18 oed, yng Nglynebwy, ddydd Mawrth. Nid oedd Mr Davies yno, roedd yn angladd ei fam.
Llun 7: Buddugoliaeth fawr i Gymdeithas Gorawl Rhydaman yng Nglynebwy ddechrau'r wythnos oedd ennill cwpan 'Y Cymro' a �150 yn y brif gystadleuaeth gorawl. Cafodd yr arweinydd, Mr Hywel G Evans, dderbyniad aruthrol pan ddaeth allan o'r pafiliwn gyda'r cwpan yn ei freichiau. Roedd y Cor, a gafodd 180 o farciau, wyth marc ar y blaen i Gymdeithas Gorawl Broughton a'r Cylch, a ddaeth yn ail. Cafodd Llanelli 171 o farciau, Sciwen 170 a Merthyr Tydfil 161. Y mae Cymdeithas Gorawl Rhydaman wedi ennill wyth neu naw o wobrau mewn Eisteddfodau is-genedlaethol, a chawsant yr ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais a hefyd ym Mwhllheli.
Llun 8: Daeth Cor Ysgol Elfennol Glanadda, Bangor, o dan arweiniad Mr S J Ward, i Lynebwy ddydd Sul - mewn digon o bryd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Gorawl Ddeulais (dan 16 oed) ddydd Mawrth.
Llun 9: Cor Cymysg Trawsfynydd, a fu'n canu yn yr ail gystadleuaeth gorawl yng Nglynebwy.
Llun 10: Arweinydd Cor Niwbwrch a'r Cylch, Mr John Hughes, yn cael ei 'gadeirio' ar y ffordd allan o bafiliwn y Brifwyl gyda'r cwpan a enillodd y cor yn yr ail gystadleuaeth gorawl.
Llun 11: Cor Niwbwrch a'r Cylch, o dan arweiniad Mr John Hughes, a enillodd yr ail gystadleuaeth gorawl yng Nglynebwy ddydd Llun. Cawsant wobr o �90 a chwpan Sefydliad Gweithwyr Tredegar (i'w ddal am flwyddyn). Y darnau a ganodd y cor oedd "Ddial o Cwyd" ("Dafydd a Saul", David Jenkins) a "Feinwen Pan Welaf I" (Wilbye).
Llun 12: Elsie Thomas, Telynores Tawe, sy'n briod i Mr William Davies, Kurri Kurri, Awstralia, oedd y delynores Gymraeg gyntaf i ganu'r delyn yn Canberra, prifddinas Awstralia.
Llun 13: Bethan Bryn Williams (dde) a Meinir Lloyd (chwith), o Rhuthun, a ddaeth yn ail ar y ddeuawd dan 18 oed yng Nglynebwy. Daeth Meinir yn drydydd ar yr unawd hefyd.
Llun 14: Seindorf Arian Deudraeth a ddaeth yn ail da yng nghystadleuaeth y bandiau pres, dosbarth B, yng Nglynebwy, ddydd Llun.
Llun 15: Euros Bowen, Un o feirniaid y goron, yn trafod y gystadleuaeth yn y Babell Len.
Llun 16: Dyma'r gorau, medd Euros Bowen. Y Parch D Emlyn Lewis, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y goron. Ef, yn ol Euros Bowen, oedd yn haeddu ennill.
Llun 17: "Y Llew arall yn y gadair". T Llew Jones, bardd y gadair, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r cadeirio.
Lluniau 18 - 19: T Llew Jones, bardd y gadair, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r cadeirio.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
931
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment