Eisteddfod Genedlaethol 1961, Rhosllannerchrugog
Disgrifiadau
30 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1961, Rhosllannerchrugog.
Llun 1: Y Parch L Haydn Lewis, Tonpentre, dan ei goron
Llun 2: Lisa Rowlands, chwaer yr heddwas a saethwyd yn canu'r Gan Groeso ar lwyfan Prifywl y Rhos fore Llun. Yr oedd ei brawd yn gwrando arni ar y radio yn yr ysbyty. Saethwyd yr Heddwas Arthur Rowlands yr wythnos cynt ger Pont-ar-Ddyfi.
Llun 3: Lisa Rowlands, ar y llwyfan
Llun 4: Syr Thomas Parry-Williams yn traddodi beirniadaeth y Goron - a'r ddau gyd-feirniad yn aros ar y llwyfan "ar streic" wrth ei ochr. Ar y chwith, J M Edwards, ar y dde, Euros Bowen.
Llun 5: Mr Einion Evans, Ysgrifennydd Cymreig y Cyngor Prydeinig yn gloywi tipyn ar Gymraeg Khaled Hashdi o Aden. Yn yr hydref wedi cyrraedd oed riteirio, mae Einion Evans yn ffarwelio a'r Cyngor Prydeinig wedi gwneud diwrnod o waith a ddaeth a theyrnged uchel iddo wrth Lady Megan George, y cadeirydd. Y mae Mr Evans yn gyn-olygydd 'Y Cymro' a pherthynai y papur i'w deulu yn Nolgellau cyn ei droi'n bapur cenedlaethol Cymru.
Llun 6: W Mathews Williams (de) yn cyfarfod a hen ffrind yn y Brifwy - sef John Owen Jones, Penycae, a oedd yn arwain Cor Mawr y Rhos ym Mhrifwyl y Rhos yn 1945.
Llun 7: Parti alawon gwerin Marcia yn y Brifwyl ddydd Llun.
Llun 8: Mr E Haddon Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Celf a Chref y Rhos yn cyflwyno'r Fedal Aur i Ceri Richards.
Llun 9: Parti Alawon Gwerin Cwm Aur yn y Brifwyl ddydd Llun.
Llun 10: Er mai Cor Caernarfon yn unig a gystadlai yn y brif Gystadleuaeth Gorawl ddydd Llun rhoddwyd canmoliaeth uchel i'w berfformiad a oedd yn llawn haeddu'r wobr o �200 a chwpan 'Y Cymro'. A dyma Dilys Wynne Williams yn derbyn y cwpan gan y cynghorydd Ifor Griffiths.
Llun 11: Tyrfa gref o aelodau newydd o'r Orsedd a dderbyniwyd trwy arholiad, yn aros eu tro i'w hurddo yn yr ystafell orlawn lle bu'n rhaid cynnal yr Orsedd ar dir sych fore Mawrth.
Llun 12: Yr Orsedd fore Mawrth.
Llun 13: Pan welodd y beirdd nad oedd y tywydd mawr am ganiatau Gorsedd yn yr awyr agored fore Mawrth bu'n rhaid mynd ati hi ar unwaith i wneud y lle'n barod ar fyrder i'r Orsedd gael ei chynnal dan do yn Ysgol y Ponciau. Ac yr oedd gwyr cyhyrog a phawb wrth law i symud y dodrefn a chlirio lle i'r seremoniau a gynhaliwyd mewn ystafell orlawn gyda llu mawr o'r tu allan heb fedru dod i mewn fodd yn y byd.
Llun 14: Dyma Monallt (de) ar ddyddgwaith yn gweithio ar ffyrdd Meirionydd i'r Cyngor Sir - gydag ef ei gydweithiwr, Philip Bleriot Williams. Enwyd ei gydweithiwr ar ol y Ffrancwr a ehedodd am y tro cynta dros y Sianel. Enwyd Monallt ar ol y bardd.
Llun 15: Monallt yng ngwisg ei ogoniant fore Iau - ef oedd y gwir werinwr a ddyrchafwyd yn Dderwydd gan yr Orsedd i'w anrhydeddu am ei gyfraniad i farddoniaeth Cymru.
Llun 16: Dydd y Goron a'r Glaw oedd dydd Mawrth yn y Rhos - ond yr oedd mwy nag un llygedyn o haul hefyd. Nid yw Elaine Williams, Rosemary Williams a Sian Hopkins, o Gor Plant Pontcanna, yn rhy siwr beth i'w wneud a'r ambarelo rhwng y ddau dywydd.
Llun 17: Eirwen Griffiths a Brenda Miles o'r Rhos, oedd y cyntaf o'r gwerthwyr rhaglenni i gyrraedd fore Llun. Os oes gennych wythnos o waith yn y Brifwyl, dechrau'n gynnar piau hi.
Llun 18: Daeth parti Dulyn, Llanbedr-y-cennin, i'r Brifwyl ddydd Llun i ganu i gyfeiliant y delyn - gan ofalu eu bod yn edrych ar eu gorau ar y llwyfan. Ac y mae Carol Pritchard a Myra Evans yn cael pob cefnogaeth i'w hymbincio gan eu cyfeillesau.
Llun 19: Canwyd llawer yng Nghymru am y wald lle treigla'r Caveri ac am draeth Travancore. Ac o Trivandrum yn Travacore daeth W J Daniel i'r Eisteddfod i glywed Cymry'n canu. Un o'i ddiddordebau mwyaf yw gwneud ffilmiau (gwelwch ei gamera) a chymerodd 12,000 troedfedd o ffilm yn Rwsia yn ddiweddar. Ac mae'n ffilmio'r Brifwyl wrth gwrs. Gydag ef y mae Tom Williams o Wrecsam ac mae ganddynt ddigon i'w drafod gan mai peirianwyr yw'r ddau.
Llun 20: Nid y merched yn unig sy'n ymbincio - yn wir hwy sy'n harddu'r dynion weithiau. A chyn mynd ymlaen i gyflwyno Heddiw ar y teledydd o'r Wyl, fe ofala July Taring, o'r B.B.C., fod Owen Edwards yn edrych ar ei orau.
Llun 21: Mr Alun Llywelyn Williams, Llywydd y Brifwyl ddydd Llun, yn annerch yn y Pafiliwn.
Llun 22: Llanelli a'i piau hi y flwyddyn nesaf ac os yw'r patrymau trawiadol sydd ar babell Llanelli yn y Rhos yn arwydd o gwbl bydd yna batrwm o Brifwyl ym Mhencadlys y Sospan. Y cwmni llawen o Llanelli mewn llygedyn o haul yw Mr T Scourfield, Mrs Gwyneth Griffiths, Mr a Mrs Delves, yr Henadur a Mrs D J Joseph, Mr a Mrs J R Thomas - a Dr Haydn Morris yn y canol.
Llun 23: Y mae gan y gwr tywyll o Nigeria gyfenw anarferol arno'i hun ac enw anarferol ar yr iaith a sieryd. Ei enw yw Theo Princewill, enw'i iaith yw Ijaw. Iaith lleiafrif ydyw ac o ganlyniad mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn ieithoedd fel y Gymraeg. Yr oedd cyn amser cinio ddydd Llun wedi dysgu dweud "Bore da" a "Diolch yn fawr". Gyda'r myfyriwr meddygol hwn o Brifysgol Llundain mae Mrs Gwynedd Prys Jones, ysgrifennydd Cyngor Gwlad Dinbych.
Llun 24: Telynores Eryri yn dal yn heini ac yn ei morio hi wrth agor y Brifwyl fore Llun. Wrth y delyn, Ffrances Mon Jones - a thrwy'r tannau, Lisa Rowlands, chwaer yr heddwas anafus o Gorris, a ganodd y cywydd croeso.
Llun 25: Cychwyn yr Eisteddfod fawr yn y Rhos, Syr Thomas Parry-Williams yn siarad, ac yn eistedd o'r chwith, Ernest Roberts, Cynan, Trefin a Dr Haydn Williams.
Llun 26: Y mai yna rai pobl -newyddiadurwyr yn arbennig, meddan nhw - na welir byth mo'u hwynebau yn y Pafiliwn. Ac y mae eraill sy'n hoffi gwrando ar y cadeiriau oddi allan yn well nag eistedd oddi mewn.
Llun 27: Yr oedd Coron y Rhos yn un anarferol o hardd a brenhinol a dyma urddas gwirioneddol wedi'r Coroni - y Parch L Haydn Lewis, o Donpentre, a Threfin yr Archdderwydd.
Llun 28: Haul fore Iau. Cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd Trefin fore Iau yr Eisteddfod.
Llun 29: Yr oedd dau newyddiadurwr i'w anrhydeddu gan yr Orsedd fore Iau. Methodd un - Gwilym Roberts, colofnydd adnabyddus y "Liverpool Post" - a dod i'r Rhos oherwydd gwaeledd, er mawr ofid i'r newyddiadurwr arall, John Roberts Williams, Golygydd "Y Cymro", a wnaed yn Dderwydd. Gwaeth na'r cyfan, dyma'r tro cyntaf er ddeng mlynedd ar hugain i Gwilym Roberts golli'r Brifwyl.
Llun 30: Dau actor a dau gyfaill - Meredydd Edwards a Clifford Evans - a wnaed yn Dderwyddon gan yr Orsedd fore Iau fel cydnabyddiaeth o'u cyfraniad i'r ddrama, I'r llwyfan ac i fywyd Cymru . Anrhydeddwyd Meredydd Edwards ("Meredydd o'r Rhos") yn ei bentref genedigol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment