Eisteddfod Genedlaethol 1947, Bae Colwyn
Disgrifiadau
Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1947
Lluniau 1 - 7: Dim disgrifiad
Lluniau 8 - 10: "Hen gist dillad diddorol yn yr arddangosfa chelf a chreft. Ar ei chaead y mae pennill "Ffolant" a frodiodd rhyw Mary Price ar Chwefror 14, 1760 ar gyfer ei chariad. Dyma'r bennill - "As sure as grapes, Grows on the Vine, Mr Pet Hughes, Is my true Valentine"
Lluniau 11 - 13: Dim disgrifiad
Lluniau 14 - 18: "Gofalodd bechgyn a genthod ysgol Ramadeg Pwllheli bod pob offeryn mewn tiwn cyn mynd ar y llwyfan am y trydydd tro cipisiant wobr Genedlaethol"
Lluniau 19 - 20: Parti canu penillion Tremarl, gydar arweinydd Mr Huw Huws, yn ymarfer cyn cystadlu gyda Gwenllian Dwyryd.
Lluniau 21 - 24: Dim disgrifiad
Lluniau 25 - 26: Parti o enethod o Lansannau yn y Brifwyl ym Mae Colwyn
Lluniau 27 - 28: "Aelodau Pwyllgor Gwaith cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Tynnwyd y darlun gan "Y Cymro" ym Mae Colwyn
Lluniau 29 - 30: Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Bae Colwyn a'r swyddogion. Bron a bod y sefydliad cyfan a holl bwysigion y dydd.
Lluniau 31 - 33: Dim disgrifiad
Lluniau 34 - 39: Nodwedd o Eisteddfod Bae Colwyn oedd ymweliad gan ieuenctid o Lydaw, a leisiodd eu gwrthwynebiad yn erbyn mesurau ymosodol hiliol a gyflwynwyd. Ffram 2, 3 y parti lliwgar hardd: ffram 4, 5, 6 (a gyhoeddwyd yn Y.C. ) a'u cerddorion; ffram 7. "Merched o Lydaw yn eu gwisgoedd cenedlaethol ym Mae Colwyn
Lluniau 40 - 41: Dewi Emrys - yn nodwediadol ohono yn sgwrsio gyda'i bibell yn ei law, gyda rhai o ddarllenwyr Pabell Awen.
Llun 42: Dim Disgrifiad
Lluniau 43 - 45: "Hufen melyn! Parti Meinir, Manod, Blaenau Ffestiniog yn y Brifwyl"
Llun 46: "Un o "ser" Bae Colwyn oedd Dennis Wyn Jones, Oakley Terrace, Blaenau Ffestiniog. Yn unarddeg oed enillodd am ganu penillion dan ddeunaw oed"
Lluniau 47 - 48: Parti o enethod Hen Golwyn. A gyda'r delyn Mair Jones a enillodd ar yr unawd telyn dan 15 a dan 18 oed a gafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y Beirniaid. Mair Jones, Telynores a enillodd ar yr unawd telyn dan 15 a dan 18 oed a gafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y Beirniaid. (Mae'r ffigwr yn y canol yn chwarae'r delyn.)
Llun 49: Parti Dawnsio Cadfan Rhostryfan yn disgwyl braidd yn bryderus - am yr alwad i'r llwyfan Ddydd Mawrth
Lluniau 50 - 51: Dim disgrifiad
Lluniau 52 - 57: Archdderwydd ar y llwyfan - paratoi am y Coroni
Lluniau 58 - 62: "Coroni y Parch Griffith John Roberts, Rheithor Nantglyn
Lluniau 63 - 66: Dim disgrifiad
Lluniau 67 - 68: "Ar y chwith - (efo papur yn ei dwylaw) yr henadur Emyr Williams, Wrecsam, a gydag ef, ugain o'i berthnasau o bob rhan o'r wlad, yn ogystal ag o Canada, a ddaeth ynghyd, am y tro cyntaf er saith mlynedd, ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth"
Lluniau 69 - 74: Paratoi ar gyfer Seremoni'r Coroni ar y llwyfan: hyd at ac yn cynnwys Seremoni'r Coroni: Erfyl Fychan yn didoli'r Orsedd ar y llwyfan: Cynan a'r Archdderwydd
Lluniau 75 - 80: Y Coroni yn mynd yn ei flaen - union eiliad ffram 13 ond defnyddiais 2 gamera ar unwaith felly mae lluniau'r coroni a gyhoeddwyd yn Ffram 28, B3
Lluniau 81 - 86: Seremoni'r Orsedd: Ymgeiswyr yn aros i gael eu derbyn a'u hanrhydeddu: Rowland Thomas ac E Meirion Evansyn aros.
Lluniau 87 - 92: Symud ymlaen i'r Maen Llog: yn 29 mae'r Orsedd gyfan gan gynnwys (erbyn hyn) y cyn- Archdderwydd dall, Elfed
Lluniau 93 - 95: Rowland Thomas rheolwr gyfarwyddwr Papurau Newydd Woodwalls Newspapers (daeth yn rheolwr y bwrdd yn ddiweddarach) gydag un o'i gystadleuwyr yn y Wasg Gymreig, E Meirion Evans (Gwasg y Brython) - "dau gyhoeddwr Cymreig gafodd eu dethol heddiw i'w hanrhydeddu, sef Mr Rowland Thomas (Pennaeth cwnni Hughes a'i Fab a chwmni"Y Cymro") a Mr E Meirion Evans Pennaeth cwmni Hugh Evans a'i Feibion, Gwasg y Brython, Lerpwl - y ddau hyn am eu gwasanaeth i lenyddiaeth Cymru. Yr enw gorseddol a gafodd Mr Rowland Thomas oedd ROLANT TUDOR (y mae'n byw ym mhlas Tudor, Pant ger Croesoswallt". Gorymdaith yr Orsedd i ardal y Maen Llog.
Lluniau 96 - 98: Gorymdaith yr Orsedd i ardal y Maen Llog.
Lluniau 99 - 100: Eisoes wedi cofnodi - band taro plant Ysgol Douglas Road
Lluniau 101 - 102: Rowland Thomas ein ei wisg lawn, a' phenwisg.
Lluniau 103 - 108: Gorsedd dydd Iau: Dawns Flodau
Lluniau 109 - 111: J T Jones: Cadeirio
Llun 112: Dim Dsigrifiad
Lluniau 113 - 114: "Bron i fil o wobrau - Cellan a Gwyndaf, plant Mr a Mrs Brin Jones, Pontardulais, a wyrion Eos Gwili a enillasant 970 o wobrau am ganu rhyngddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn cystadlu yn y gwyliau cenedlaethol o 1944 i 1947. Cipasant naw wobr gyntaf a phedair ail wobr, yn cynnwys y ddeawd dair blynedd yn ddilynol, dwywaith dan 18 oed a unwaith dan 16 oed. Ym Mae Colwyn eleni enillodd Gwyndaf y wobr gyntaf am unawd, dan 12, a Cellan y wobr gyntaf am unawd dan 16, a dyfarnwyd y ddau yn orau am deuawd"
Lluniau 115 - 120: J T Jones: Cadeirio
Llun 121 - 124: Can y Coroni:
Lluniau 125 - 126: John Roberts Williams, golygydd y Cymro, yn cyflwyno cwpan y Cymro i'r Eisteddfod (prif corawl: gwobr)
Lluniau 127 - 132: Cor Sale wrthi ar y llwyfan: eu harweinydd 76 oed Mr A Higson wrth eu waith: hwy a enillodd Gwpan Y Cymro.
Lluniau 133 - 138: Defod y Cadeirio: J T yn ei gadair
Lluniau 139 - 142: Defod y Cadeirio: J T yn ei gadair. Defod y Cadeirio: 35 J T Jones yn sibrwd ei enw yng nghlust yr Archdderwydd: can y Coroni: J T yn aros yn fyfyrgar yn ei gadair yn byseddu ei wefus tra mae'r Archdderwydd yn cael gair gyda'r canwr, a'r orsedd yn eistedd yn y cefndir.
Llun 143: "Dilynir Mr D R Hughes fel cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol gan Mr Ernest Roberts, Bangor, a oedd yn ysgrifennydd Cyffredinol i'r Cyngor. Dilynwyd Mr Ernest Roberts gan Ann Owen, o Fethesda ar faes yr Eisteddfod, o fe'i daliodd ef a Chynan, y cyd-ysgrifennydd arall. Mae Cynan yn ysgrifennu yn y llyfr bach a Mr Ernest Roberts yn aros ei dro. Ni allasent wrthod, yn hawdd, canys or englyn yn y llyfr fe eglurir pwy yw Ann Gwynn, a gwahodder y beirdd a'r gwyr llen i gyfrannu iddo gan y Dr R Williams Parry. A dyma'r englyn - "Ann Gwynn yw unig Eenth y cyfaill Frank Evans a Gwyneth; Am enwau beirdd mae Ann. Beth Am daro yma doreth?"
Llun 144: "Llew Dwyryd a Mr Watkin Jones, Dolben, a ddaeth yn gydradd gyntaf yn y brif gystadleuaeth canu penillion yn y brifwyl"
Llun 145: Dim Disgrifiad
Llun 146: Mr Watkin Jones
Lluniau 147 - 148: Dim disgrifiad
Lluniau 149 - 150: Pabell Pwyllgor Diogelwch y fyrdd Sir Ddinbych.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment