Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdar
Disgrifiadau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdar
Llun 1: Gyda'u hathrawes Gymraeg, Miss Rhiannon Davies Jones, o Lanfair, Harlech, daeth 17 o ddisgyblion ysgol Ramadeg Rhuthun gyda'i gilydd i'r Brifwyl - 12 o ferched a phump o fechgyn o'r dosbarthiadau uchaf. Arhosai'r merched yn ysgol y Gadlys yn Aberdarr - a dyma hwy yn eu noson lawen fach gartrefol eu hunain nos Lun. Bu trannoeth yn ddiwrnod mawr iddynt - ennill ar y cywaith ar hanes ffermydd Dyffryn Clwyd, ennill gyda'u parti canu penillion, a hyfforddwyd gan athro arall yn yr ysgol, Mr Aled Davies; dod yn ail ar gydadrodd, dwy o'r merched yn dod yn ail ar ddeuawd penillion, ac un arall yn cipio'r wobr gyntaf ar adrodd dan 18 oed. Yr oedd iddynt wely cysurus yn yr ysgol a diau y cysgasant yn esmwythach na'r llanciau o Fon a roes eu pennau i lawr yn ystafell yr ysgrifennydd cyffredinol tu fewn i'r pafiliwn nos Sul a nos Lun. Er caleted y llawr, fodd bynnag, yr ynig beth a flinai'r bechgyn hynny oedd y codi bore i ymfudo cyn i'r ysgrifennydd eu dal.
Llun 2: [Gweler disgrifiad hir E56/1 - llun a gyhoeddwyd.]
Llun 3: Seremoni'r Orsedd ddydd Mawrth. Ar y Maen Llog gwelir yr Archdderwydd Dyfnallt, Trefin a Crwys yn dadweinio'r Cledd.
Llun 4: Yr Orsedd fore Mawrth.
Lluniau 5 - 6: yr Orsedd fore Mawrth.
Llun 7: Bandiwr blinedig ar ol iddo fod yn cystadlu.
Llun 8: Disgyblion Ysgol o Ruthun.
Llun 9: Disgyblion Ysgol o Ruthun.
Llun 10: Annwen Rowland Howells o Gwmgwrach, yn ei gwisg Gymreig, efo'i thad, y Parch Elwyn Howells, brodor o Aberdâr, sydd newydd ei dderbyn i'r Orsedd.
Llun 11: Parti o Bwllheli
Llun 12: Annwen Rowland Howells a'i thad, y Parch Elwyn Howells (gweler E56/9).
Llun 13: Y Parch. William Morris, gweinidog Siloh (M.C.) Caernarfon, a ddewiswyd yn olynydd i Ddyfnallt fel Archdderwydd Cymru, yn Aberdâr, yr wythnos hon.
Llun 14: Dim disgrifiad
Llun 15: Maes yr Eisteddfod a'r stondinau.
Llun 16: Daeth genethod Abertileri i'r Brifwyl i ddawnsio - ac i fwynhau'r haul ar y maes. Eu harbenigrwydd - y maent wedi gwneud eu dilladau eu hunain.
Llun 17: Maes yr Eisteddfod yn yr haul.
Llun 18: Mr Joseph Davies (chwith), o Exeter ond yn wreiddiol o Bontypridd, ac a ddysgodd Gymraeg tra'n byw yn Exeter, gyda Mr John Williams, bancwr yn Exeter ond yn wreiddiol o Ruthun.
Llun 19: Hywel Harris, cartwnydd "Y Cymro" yn yr Wyl. Beth? Dim gwên!
Llun 20: Gorymdaith yr Orsedd ddydd Mawrth.
Lluniau 21 - 22: Yr Orsedd yn gorymdeithio i'r pafiliwn ddydd Mawrth.
Lluniau 23 - 24: Yr Archdderwydd Dyfnallt, yn dioddef o effaith y gwres, yn cael ei gynorthwyo gan yr heddlu i gyrraedd ei gar.
Llun 25: Yr Orsedd yn gorymdeithio o'r pafiliwn.
Llun 26: Maes yr Eisteddfod.
Llun 27: Parti Dawns yr Urdd yn yr Eisteddfod yn Aberdar.
Llun 28: Yr Orsedd yn gorymdeithio o'r Pafiliwn brynhawn Mawrth.
Llun 29: Disgyblion o ysgolion Cymru a ddewiswyd gan awdurdodau addysg Cymreig i dderbyn ysgoloriaeth i'w helpu i ymweld a'r Brifwyl yn Aberdâr. Ar y chwith y mae Mr D Brymor Anthony a Mr Emyr Williams ar y dde.
Lluniau 30 - 31: Dim disgrifiad
Llun 32: Mae'r maes yma i'w weld yn wag iawn yn awr. Arhoswch chi imi gael edrych ymhle yr ydym ni arni hi ar y rhestr yma. Wyddoch chi be, 'rwy'n ofni fod gweithrediadau'r dydd drosodd heddiw eto a minnau heb gael cyfle i ganu. Yn wir i chi - mae'r Eisteddfod ar ben -----'. Geraint Davies, 3½ oed, o Lanymddyfri, yw'r bychan. Ei bennaf uchelgais yn Aberdar oedd esgyn i'r llwyfan i ganu -ond chafodd e ddim. Rywfodd neu'i gilydd, fodd bynnag, fe gafodd afael ar ffon y Parch Alban Davies, ac nid ar chwarae bach y llwyddwyd i'w chael oddi arno ychwaith!
Llun 33: Geraint Davies, 3� oed, o Lanymddyfri.
Lluniau 34 - 36: Dim Disgrifiad
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment