Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1952, Aberystwyth
Disgrifiadau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1952, Aberystwyth
Lluniau 1 - 2: Cynan yn cyflwyno Tlws Llywydd Cyngor yr Eisteddfod
Lluniau 3 - 4: Y Dr W J Grufydd yn traddodi beiriadaeth cystadleuaeth y goron
Lluniau 5 - 6: Yr Archdderwydd Cynan yn gwylio y Dr W J Grufydd yn traddodi beirniadaeth cystadleuaeth y goron
Llun 7: Yr Archedderwydd Cynan yn ystod seremoni'r coroni
Llun 8: Trefin ac Erfyl Fychan a'r cledd dros y gadair wag.
Lluniau 9 - 11: Miss Megan E Hughes, Aberystwyth, a roddodd y Goron i'r Eisteddfod eleni, yn gwrando o'r dorf ar feirniadaeth ysgubol W J Gruffydd
Llun 12: Un o'r organyddion capel y Annibynwyr yn Ynysybwl yn nechrau'r ganrif oedd merch fach ddeg oed o'r enw Myfanwy. Yno roedd hi'n byw gyda'i nain - nes symud i Faesteg i ymuno a'r Cor Merched Brenhinol Cymreig yn 1910. A dyma pryd y gwelodd ei ffrindiau hi o Ynysybwl hi ddiwethaf - hyd yr wythnos hon pan ddaeth Madam L Myfanwy Mayers i Aberystwyth i gyflwyno Cadair yr Eisteddfod ar ran Cymdeithas Gymraeg Cape Town, De Affrica. Madam Mayers, a anwyd yn Nghaersws, oedd cyfeilydd y Cor Merched Brenhinol Cymreig. Bu'n teithio gyda'r cor yn America ddwywaith ac ymbriododd yn Ne Affrica pan oedd y cor ar ymweliad a'r wlad honno, yn 1912. Er mai Sais o Reading yw ei gwr cadwodd ei Chymraeg yn ddilediath a chroyw.
Llun 13: Madam L Myfanwy Mayers, Cape Town, De Affrica.
Llun 14: Y Testun a roddwyd i Gynan, yr Archdderwydd, i siarad arno wrth ugain o efrydwyr tramor sy'n aros yn Aberystwyth oedd - "The Welsh Grand National". Ond yma nid ar Tattenham Corner na Beecher's Brook yr oedd y pwyslais. Yn hytrach clywodd yr efrydwyr - o Ffrainc, yr Almaen, Hong Kong, Jamaica, Malaya, Mauritius, Nigeria, New Zealand, Gogledd Borneo, Singapore, Trinidad, Tanganyika a Iwgoslafia - am Brifwyl Cymry a'r iaith swyddogol, y Gymraeg.
Llun 15: Lady Megan yn gwrando ar Syr Idris Bell. Lady Megan Lloyd George yn ystod agoriad swyddogol yr arddangosfa celf a chrefft.
Llun 16: Lady Megan Lloyd George yn agor celf a chrefft.
Llun 17: Lady Megan Lloyd George yn agor yr arddangosfa celf a chrefft.
Llun 18: Lady Mrgan Lloyd George gyda Syr Idris Bell yn agoriad swyddogol yr arddangosfa gelf a chrefft.
Llun 19: Am y drydydd flwyddyn enillodd Parti Cwrt Newydd, Aberteifi, y wobr am gan actol dan 15.
Lluniau 20 - 21: Rhan o Gor Aberystwyth.
Llun 22: Yr orsedd dan do - a'r cyrn yn cyach. Gwelir Crwys a Threfin.
Llun 23: Geraint Lloyd Owen, Sarnau, Meirionydd, y cyntaf am adrodd dan 12 a Rebecca Edwards, Llawrybetws, Corwen. Cafodd hi ddwy wobr gyntaf mewn cystadlaethau barddonol dan 18 oed, sef cyfansoddi telyneg a chan ysgafn i Noson Lawen.
Llun 24: Aeth cwpan 'Y Cymo' a gwobr o �150 yn y brif gystadleuaeth gorawl i Gor Sciwen, ger Abertawer (dan arweiniad Mr Gwyn Thomas). Ni thraddodwyd sylwadau ar y corau ar wahan ond meddai'r Dr D E Parry Williams, wrth gyflwyno marciau: "Cawsom wledd o ganu yma'r prynhawn yma. Yr oeddem yn gwefreiddio wrth glywed darn Cymreig ochr yn ochr a darn gan un o gyfansoddwyr mawr y byd!" "Cyfansoddwyd 'Her, Her i'th golyn, Angau; gan Bach pan oedd yn wr ieuanc. Ieuanc hefyd yw Arwel Hughes a gyfansoddodd 'Gweddi'. Safle'r corau: 1, Sciwen 178:2, Caernarfon 173:3, Troeddyrhiw 171;4, Cymry Llundain 170:5, Caerfyrddin 160".
Llun 25: Cor Sciwen, enillwyr cwpan 'Y Cymro'!
Llun 26: Arweinydd Cor buddugol Sciwen, Mr Gwyn Thomas, yn derbyn cwpan 'Y Cymro'.
Llun 27: Aelodau o Gor Sciwen gyda'i harweinydd Mr Gwyn Thomas, yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth.
Llun 28: Cor Caerfyrddin
Llun 29: Tim O M Lloyd yng nghystadleuaeth Ymryson y Beirdd sydd yn crafu pen ac ymbalfalu yma. Yn cymryd rhan y mae Gwilym R Tilsley, J O Jones, Huw Llew Williams, R E Jones, Trebor E Roberts, R Ithel Williams ac Iorweth Lloyd.
Llun 30: John Evans, bardd y gadair, a'r Archdderwydd Dyfnallt ar y llwyfan - nid yr archdderwydd - Cynan oedd yr Archdderwydd y flwyddyn hon.
Lluniau 31 - 32: John Evans, bardd y gadair ar y llwyfan gyda Erfyl Fychan a Threfin.
Llun 33: Catrin Puw Morgan, Corwen, a dderbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment