Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1948, Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1948, Pen-y-bont ar Ogwr
Lluniau 1 - 13: Dim Disgrifiad
Lluniau 14 - 19: "Ac Ymerawdr beirdd Cymru ydoedd" - Dewi Emrys yn ei gadair.
Lluniau 20 - 24: Seremoni fach hapus - y cyfarchiad arferol i'r bardd cadeiriol newydd - y tro hwn gan y Bardd Cronog Euros Owen, Llangower.
Llun 25: Dim disgrifiad
Lluniau 26 - 27: Yr orymdaith i lawr y grisiau o gefn y pafiliwn - Dewi Emrys a Trefin (at y chwith gyda'r cleddyf) a'r Archdderwydd gyda Cynan y tu ol.
Lluniau 28: Yr oedd gan Ddewi gymaint o ddilynwyr yn darllen Pabell Awen fel bod rhai oedd am ddymuno'n dda iddo wedi rhuthro ymlaen i geisio gafael yn ei law arth i'r orymdaith symud tuag at fws yr Oesedd - ac y mae'n camu i mewn iddo gyda pheth rhyddhad yn ffram 31.
Lluniau 29 - 31: Dim disgrifiad
Lluniau 32 - 33: Erfyl Fychan wedi iddo gael ei benodi yn ei wisg, yn yr Orsedd
Lluniau 34: William Owen Roberts, o Bentreuchaf, Pwllheli, cyntaf am adrodd dan 21
Lluniau 35: Cor merched Llanberis a'u harweinydd W. James - a stori dda dros ben am y cor gan Idris Roberts ar y dudalen flaen. Dyfarnir y cor yn ail orau ar ol blynyddoedd o waith!
Llun 36: Cor merched Llanberis a'u harweinydd W. James - a stori dda dros ben am y cor gan Idris Roberts ar y dudalen flaen. Dyfarnir y cor yn ail orau ar ol blynyddoedd o waith!
Llun 37: Dim disgrifiad
Lluniau 38 - 43: "Yr oedd y dyfroedd yn gorchuddio popeth Ddydd Llun, a'r dewrion yn colli'r frwydr wrth ymladd eu ffordd tua'r cownter bwyd. Yr oedd y pebyll eraill ynghau."
Llun 44: Pabell "Hughes a'i Fab"
Lluniau 45 - 47: Dawnswyr y blodau
Lluniau 48 - 50: Ena Chandhuri o Calcutta, ar ymweliad a'r Brifwyl.
Llun 51: Pabell Y Cymro
Lluniau 52 - 53: Keidrych Rhys: cyhoeddwr Eingl-Gymreig a fu'n cyhoeddi cylchgrawn am gyfnod wedi'r rhyfel ar faterion Eingl-Gymreig.
Lluniau 54 - 55: Pabell Y Cymro
Lluiniau 56 - 61: "Parti Dawns Werin Caergybi, a gafodd y wobr gyntaf. Hwn oedd prif atyniad maes Brifwyl fore Llun.
Lluniau 62 - 63: Dim disgrifiad
Lluniau 64 - 65: "Parti Seion Glan Aman a gafodd y wobr gyntaf am gan ystem ddydd Llun."
Lluniau 66 - 71: Dwy hen fenyw a ymwelodd a Phen-y-bont ar Ogwr - Mrs S. Bevan (68) 2 Garn Road, Maesteg, and Mrs Hannah Thomas (82) (chwith) 18 Alam Road Maesteg. "Dechreuodd Mrs Thomas fynychu'r Brifwyl pan oedd yn 12 oed a chystadlai oddi ar ei llwyfan yn 13 oed."
Lluniau 72 - 77: Higson a'r cwpan gan Jim Griffiths A.S. (Rhydaman) (brawd Amanwy) - a mwy o gusanau!
Lluniau 78 - 79: "Mr Emyr Williams, Wrecsam, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod gyda rhai o'r ymwelwyr tramor ym Mhen-y-bont wedi iddynt gael eu cyflwyno i'r gynulleidfa yn y pafiliwn."
Lluniau 80 - 83: Cwpan y Cymro yn cael ei gyflwyno'n swyddogol gan Mr Emyr Williams, Wrecsam.
Lluniau 84 - 86: Mr W. P. Evans a Mr Alf Jones yn llongyfarch Mr Maldwyn Jones, Machynlleth, am ennill ar yr unawd operataidd ym Mhen-y-bont.
Lluniau 87 - 89: Wil Vaughan, Bontnewydd, Caernarfon. Gwr hynod a ymunodd a staff Y Cymro yn 1947. Bu'n dysgu am gyfnod yn Nhreffynnon, ac yna, oherwydd problemau iechyd (derbyniodd ddeiagnosis anghywir o T B wedi iddo gael Pelydr X a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i ddysgu) fe gymerodd ei wraig ysgol gyda thy ynghlwm iddi yn Bog Muchalls ger Huntley, heb fod ymhell o'r Nair Coast. Wedi i'r amheuon ynghylch ei iechyd ddiflannu, parhaodd i ddysgu yn ysgol Gordonstown school. Yr oedd ei olwg (a fu'n wael er erioed) yn pallu; llwyddodd i ymgymryd a hyfforddiant R. N. I. B. ond bu farw o glefyd ar yr arennau yn llawer rhy gynnar. Ar un cyfnod bu'n ysgrifennu'r Llythyr o'r Alban yn wythnosol i'r Cymro, gan wneud yr un peth yn y Wyddeleg ar gyfer Radio Gwyddelig (!). Cafodd ei ddefnyddio yn y ffilm Tir na Nog ac arferai fynd o amgylch gyda Tom Morgan yn ein ysgubor ffilmiau - a theithio o amgylch Cymru gan wneud y sylwebaeth trwy uchelseinydd y taflunydd - tasg yr oedd angen cryn fedr i'w chyflawni: byddai'n gosod ei sylwebaeth at gyfer cynulleidfa benodol, a fydden ni byth yn rhoi ei sylwebaeth ar ffilm - anghofiais yn llwyr am hyn ac roedd yn achosi peth dryswch i mi yn 1972 pan gytunais i ddangos Tir Na Nog i Gymdeithas Gymraeg Coleg Bangor, a chanfod nad oedd unrhyw fath o gapsiynau! (ffilm heb sain oedd hon ac un y bu i mi ei thynnu ar Reversal Stock a'i golygu, ac y mae bellach yn archifau'r Llyfyrgell).
Lluniau 90 - 95: Mr Alfred Higson Arweinydd Cor Sale Choir yn ennill Cwpan y Cymro am y prif gystadleuaeth gorawl - a llawer o gusanau gan aelodau cyffrous! Ac yntau'n 77 oed, arweiniodd y cor i fuddigoliaeth gyda marciau o 99, 98 a 97 allan o 100.
Lluniau 96 - 98: Dewi Emrys a Dwynwen, ei ferch. [Y tu allan i garafan Y Cymro]
Lluniau 99 - 102: "Brenhines y Band. Ar y chwith Miss Gwyneth Thomas, Brenhines y Band o Dongwynlais a'i dwy gyfaill yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, gyda'r bandiwr D M Roberts o Dongwynlais wedi i'w fand ddod yn ail."
Lluniau 103 - 105: Lluniau nodweddiadol o unrhyw Faes cenedlaethol - ac un o hoff bethau'r Eisteddfod - picnic cyfeillgar.
Llun 106: Emlyn Jones o Ddinbych a gafodd y trydydd am ganu penillion dan 18 oed.
Llun 107: Cydradd gyntaf am ddrama fer ym Mhen-y-bont - Alun Kymric Lewis, Llanfair Pwllgwyngyll.
Llun 108: "I Heulwen, merch y telynor Llyfni Huws, Penygroes, Arfon aeth gwobr gynta'r Brifwyl am ganu penillion dan 14 a dan 18."
Lluniau 109 - 111: Nodyn llawysgrif: Ch i'r Dd - Maime Noel Jones, Dewi Prys Thomas, Cledwyn ---, Robin Williams a pherson anhysbys.
Lluniau 112 - 115: "A oes heddwch?" Daeth gohebydd a thynnwr lluniau'r "Cymro" o hyd i'r gymdeithas Gymreiciaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn "tafarn datw" Cedwir y bwyty bach clyd hwn gan Mr a Mrs John Roberts - Mr Roberts yn frodor o Gorris a Mrs Roberts yn hannu o Dowyn, Meirion" "Brenhines y Band. Ar y chwith Miss Gwyneth Thomas, Brenhines y Band o Dongwynlais a'i dwy gyfaill yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, gyda'r bandiwr D M Roberts o Dongwynlais wedi i'w fand ddod yn ail".
Lluniau 116 - 131: "Eleni y mae Emrys yn cwblhau deng mlynedd o olygu Pabell Awen "Y Cymro" enillodd Dewi, yntau gadair yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith a'r goron unwaith --- yr oedd ei ferch Dwynwen gydag ef ar y faes y Brifwyl ym Mhen-y-bont. Mae Dwynwen yn llawn o athrylith ei thad ---."
Lluniau 132 - 143: "Coronwyd gwr o hil beirdd ym Mhen-y-bont pan gyrhaeddwyd atyniad mawr cyntaf yr wyl, brynhawn Mawrth. Mewn neuadd a oedd dan ei sang gosodwyd y goron ar ben y Parch Euros Bowen, Ficer Llangower, ger Bala. Brodor o Dreorci y Rhondda. Rhoddwyd canmolaeth uchel i'r Bryddest 'O'r Dwyrain' dywedwyd bod y gystadleuaeth yn un gampus".

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
1335
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment