Eisteddfod Genedlaethol 1961, Rhosllannerchrugog
Disgrifiadau
26 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1961, Rhosllannerchrugog.
Seremoni'r Orsedd yn Ysgol Gynradd Ponciau, fore Mawrth yr Eisteddfod, yn y blaen mae Cynan, y Dirprwy Archdderwydd ac y tu ôl iddo gwelir Dilwyn Miles, Ceidwad y Cledd, yr Archdderwydd Trefin, William Morris a Crwys.
Lluniau 1 - 3: Tri beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith (a atalwyd yn Rhosllanerchrugog) yw (o'r chwith i'r dde): Mr Islwyn Ffowc Elis; Dr Kate Roberts, a Mr John Gwilym Jones.
Llun 4: Tri beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, (o'r chwith i'r dde), Mr John Gwilym Jones, Mr Islwyn Ffowc Elis a Dr Kate Roberts.
Llun 5: Cystadleuwyr yn y gystadleuaeth Cân Actol.
Llun 6: Ar y chwith mae Theresa Hahn, 13 oed, ffoadur a fabwysiadwyd gan Ysgol Sul eglwys Heol y Crwys, Caerdydd. Talasant iddi ddod draw i Gymru am dri mis o wyliau.
Lluniau 7 - 8: Dim disgrifiad
Lluniau 9 - 11: Rhai o swyddogion Llys yr Eisteddfod yn y cyfarfod a benderfynai ar leoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1963.
Lluniau 12 - 13: Aelod o un o'r dirprwyaethau a wahoddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1963.
Llun 14: Y Parch G T Roberts, ficer Aberconwy a bardd coronog, yn gosod achos Llandudno dros gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1963, o flaen aelodau Llys yr Eisteddfod.
Llun 15: Dirprwyaeth Llandudno yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod.
Lluniau 16 - 20: Aelodau Llys yr Eisteddfod yn y cyfarfod i benderfynu ar leoliad Eisteddfod Genedlaethol 1963.
Lluniau 21 - 23: Aelodau o'r Orsedd yn paratoi ar gyfer seremoni'r Orsedd yn Ysgol Gynradd Ponciau, fore Mawrth.
Lluniau 24 - 26: Seremoni'r Orsedd yn Ysgol Gynradd Ponciau, fore Mawrth yr Eisteddfod, yn y blaen mae Cynan, y Dirprwy Archdderwydd ac y tu ôl iddo gwelir Dilwyn Miles, Ceidwad y Cledd, yr Archdderwydd Trefin, William Morris a Crwys.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment