Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1964, Abertawe

Disgrifiadau

11 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1964, Abertawe

Lluniau 1 - 2: Pentref a enillodd rai o brif anrhydeddau'r brifwyl yw Bodwrog ym Mon. Aeth y cwpan yng nghystadleuaeth parti penillion dan 21 oed i'r cwmni hapus hwn. Hefyd enillodd Cor Adrodd y bechgyn y brif wobr dan 25 oed, ac yr oedd y parti can werin yn gyfartal gyntaf.
Lluniau 3 - 4: Meriel James, Cwmgwili, Jennifer Evans, Pontarddulais a Norma Winstone, Felindre a enillodd wobrau am adrodd dan 15 oed.
Llun 5: Ymgeisydd aml ei llawryf yw Gaenor Falmai Jones (14 oed) Sarnau, ac enillodd brif wobr yr alaw werin i rai dan 16 oed a'r drydedd yn adran cerdd dant dan 15 oed.
Llun 6: Y plant buddugol yn arholiadau Llys yr Eisteddfod. Eu maes oedd y llyfryn swyddogol "Eisteddfod Cymru".
Llun 7: Ann Jones-Morris, Porthmadog, enillydd y gystadleuaeth dawns werin unigol i ferched gyda'r delynores Francis Mon Jones yn gyfeilydd iddi.
Llun 8: Anrhydedd arbennig i ran Anne Thomas, Caernarfon, oedd ei dewisiad yn unawdydd soprano yng nghyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru nos Fercher.
Llun 9: Un o gant a rhagor oedd Delyth Mai Johnes, Rhydymain, Dolgellau, yn y gystadleuaeth adrodd i rai dan 12 oed, a'r ieuengaf ar y llwyfan, ac un a enillodd y wobr gyntaf (gyda Alun Williams)
Llun 10: Pencampwr y gystadleuaeth dawns unigol i fechgyn yw Owen H Roberts ac enillydd llawer gwobr ym mhrif Eisteddfodau eraill Cymru.
Llun 11: Triawd Apollo, Aberystwyth, enillwyr y triawd offerynnol.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
837
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment