Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala
Disgrifiadau
26 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala.
Llun 1: Cor Plant Eisteddfod y Bala yn yr ymarfer.
Llun 2: Dim Disgrifiad
Llun 3 - 4: Eisteddfodwyr yn prynu tocynnau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Barri 1968, ym mhabell Eisteddfod y Barri ar y Maes
Llun 5 - 6: Dim Disgrifiad
Llun 7: Band Corris
Llun 8: Dim Disgrifiad
Llun 9: Prynu tocynnau ym mhabell Eisteddfod Genedlaethol y Barri.
Llun 10: Plant Ysgol Gymraeg y Barri, Gethin Scourfield, David Owens, Sian Owens, Geraint Parry a Rhian Morgan yn helpu i werthu cardiau Nadolig arbennig Eisteddfod y Barri yn y babell ar faes yr Eisteddfod.
Llun 11 - 13: Dim Disgrifiad
Llun 14 - 15: T. Glyn Davies, John Gwilym Jones, Tom Parri ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 16: Dennis Roberts (dde) a'r Labordy Iaith ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 17: Labordy Iaith ar Faes yr Eisteddfod, Peter Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr, a fu'n dysgu'r Gymraeg am oddeutu blwyddyn gyda Dennis Roberts, Mrs Margaret Roberts a Mr Alun Jones.
Llun 18: Y Tad Calves a Lydaw (chwith), Mr J. H. Roberts, Pwllheli (canol) a'r Tad le Clerc o Lydaw, y tri yn rhugl yn y Gymraeg a'r Llydaweg.
Llun 19 - 20: Tair merch ar faes yr Eisteddfod yn y glaw.
Llun 21: Dwy o ferched prysur ym mhabell Theatr Cymru: Mair Gwenllian Gwent o Abertawe a Catrin Dwyryd o Ddolgellau.
Llun 22: Mair Gwenllian Gwent, Abertawe.
Llun 23: Catrin Dwyryd o Ddolgellau.
Llun 24: Band Canol - y - Rhondda a enillodd wobr dosbarth A yn yr Eisteddfod, gyda'u mascot Jacko (T. J.) Davies, ac Is-gadeirydd y Band, a chwpan Tiriogaethwyr Sir Fflint.
Llun 25: Dim Disgrifiad
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment