Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1959, Caernarfon

Disgrifiadau

25 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1959, Caernarfon.
Cor Llanelli a ddaeth yn drydydd yn y brif gystadleuaeth gorawl ddydd Llun.
Llun 1: Dim disgrifiad.
Llun 2: Band Mynydd y Garreg a enillodd y wobr gyntaf yn Nosbarth B a'r ail wobr yn Nosbarth C.
Llun 3 - 4: Dim disgrifiad.
Llun 5: Rhai o'r enillwyr yn adran celf a chrefft y brifwyl - Philip Eyton Jones, Rhuthun (pensaeriaeth - myfyrwyr); Michael Evans, Llanrug (arlunio dan 18 oed); Olwen Jones, Cerrig-y-drudion (gwnio dan 25 oed); Philip Esmor Thomas, y Rhyl (arlunio dan 25 oed) a John Rhion Pritchard, Llanllwni (gwaith coed dan 25 oed).
Llun 6: Parti bechgyn Trearddur yn y gystadleuaeth dawns werin i rai dan 12 oed, ddydd Llun.
Llun 7: Y buddugwyr ar unawd cerdd dant dan 12 oed ddydd Llun oedd: Marlene Davies (Aberteifi), 1af; Alwyn Humphreys (Talysdarn), 2il; Enid Hughes (Cyffordd Llandudno), 3ydd.
Llun 8: Parti Dilys, Caergybi yn y ddawns werin i rai dan 12 oed, ddydd Llun.
Llun 9 - 10: Dim disgrifiad.
Llun 11: Rhaid i dei baswr fod yn syth! Dyma Robert Downing yn twtio tei John Walters, a Dudley Lewis (tenor) yn gwylio.
Llun 12 - 13: Dim disgrifiad.
Llun 14: Am yr ail flwyddyn yn olynol aeth cwpan 'Y Cymro' i Gymdeithas Gorawl Rhydaman yn y brif gystadleuaeth gorawl, ddydd Llun. Yn ail oedd Brychdyn a'r cylch, a Llanelli yn drydydd. Y darnau prawf oedd 'O noson deg' (E T James) a'r 'Amen' (o'r 'Messiah' gan G F Handel). Gwelir yma yr arweinydd, Hywel G Evans.
Llun 15 - 17: Dim disgrifiad.
Llun 18: Seindorf arian Trefor, fu'n cystadlu yn Nosbarth D yn y brifwyl, ddydd Llun.
Llun 19: Band taro Ysgol Gynradd y Bala a ddaeth yn gyntaf yn eu cystadleuaeth ddydd Llun.
Llun 20: Coedpoeth a gipiodd y wobr gyntaf ddydd Llun, i gorau ieuenctid dan 30 oed.
Llun 21 - 22: Dim disgrifiad.
Llun 23: Côr Aberporth a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y corau ieuenctid dan 30 oed, ddydd Llun.
Llun 24: Dim disgrifiad.
Llun 25: Côr Llanelli a ddaeth yn drydydd yn y brif gystadleuaeth gorawl ddydd Llun.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
522
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment