Rhai o swyddogion Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd
Disgrifiadau
3 negatif : du a gwyn. Rhai o swyddogion Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd.
"Pobl "Shir Gar" yw'r rhain; Mr W Gerallt Harries o Landeilo,yn sicrhau llety ar gyfer y Brifwyl gan Mrs E Rosser, un o ferched Sir Gaerfyrddin - sy'n ysgrifennydd pwyllgor llety a chroeso - gofala'r pwyllgor llety na chodir crogbris ar neb; gofynnir i'r gwesteywyr gytuno i beidio a chodi mwy na phymtheg swllt am wely a brecwat - a llai os yw'r lletywyr aros am fwy nag un noson."
Llun 1: "Dau Gardi, dau o'r "bobl ddwad" i Gaerdydd: Mrs J D Harries - sy'n hannu o Lanbedr-Pont Steffan - yn archebu tocyn wythnos - gyda Mr Idwal C Evans, ysgrifennydd cyffredinol Caerdydd. Brodor o Dregaron yw Mr Evans. Rhyddhawyd ef o'i swydd yn brifathro ysgol yn y Brifddinas i ymgymeryd ag ysgrifennyddiaeth y Brifwyl.
Llun 2: "Prifwyl Ddrutaf un, ond dim pryderon ariannol." "Yn llawn prysurdeb yn swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y mae'r ysgifennydd cyffredinol, Mr Idwal C Evans, a'r ddwy sy'n ei gynorthwyo - Mrs Joan Moody,Cwmgwrach, a Mrs Nancy John,Caerdydd
Llun 3: "Pobl "Shir Gar" yw'r rhain; Mr W Gerallt Harries o Landeilo, yn sicrhau llety ar gyfer y Brifwyl gan Mrs E Rosser, un o ferched Sir Gaerfyrddin - sy'n ysgrifennydd pwyllgor llety a chroeso - gofala'r pwyllgor llety na chodir crogbris ar neb; gofynnir i'r gwesteion gytuno i beidio chodi mwy na phymtheg swllt am wely a brecwast - a llai os yw'r lletywyr aros am fwy nag un noson."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment