Skip to main content

Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 3 Tachwedd 1902 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Mae Llwyd ap Iwan yn ymddiheuro i'w fam nad yw wedi ysgrifennu ynghynt. Yn ddiweddar, derbyniodd lythyr oddi wrth ei frawd, Mihangel, yn dweud ei fod yntau a'r teulu newydd ddychwelyd i Buenos Aires ar ôl treulio rhai misoedd yng Nghymru. Yn ôl Mihangel, roedd ei fam yn edrych yn dda iawn ac roedd y teulu ym Mangor hefyd mewn iechyd rhagorol.

Mae Llwyd yn mynd yn ei flaen i drafod y sefyllfa ddifrifol sydd yn parhau yn y Wladfa yn diflyn y llifogydd diweddar. Yn ei farn ef, bydd yn cymryd blynyddoedd i adfer y sefyllfa. Mae iechyd Lewis Jones yn dirywio ond mae ei wraig mewn iechyd da. Maent oll wedi bod yn byw yn Nhrelew ers mis Mehefin ond nid yw'n gwybod pryd y byddant yn medru dychwelyd i'w cartrefi. Mae llawer o bobl yn cael eu temtio gan y cynnig da i ymsefydlu yn Ne Affrica. Gwelodd Mrs Abraham Matthews yn gynharach y noson honno ac mae hithau'n anfon ei chofion gorau at ei fam. Mae Edward Owen eisoes wedi gadael am y Rio Grande i geisio sefydlu gwladychfa newydd yno. Dywed fod y Parch. D. Lloyd Jones wedi anfon llythyr at 'Y Drafod' yr wythnos ddiwethaf, yn ei feirniadu ef ac eraill sydd yn cefnogi ymsefydlu yn Ne Affrica. Mae'r plant mewn iechyd da, ond mae Myfanwy Ruffydd, ei wraig, yn ei gwely yn wael ers wythnos.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Ap Iwan, Llwyd
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00259
Eitem wedi’i llwytho:
29/4/2010
Date originally created:
3/11/1902
Gwelediadau:
621
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment