Skip to main content

Afon Rheidol

Disgrifiadau

Mae afon Rheidol yn rhedeg am oddeutu 28 milltir, yn codi ar Blynlimon i gwrdd â’r môr yn Aberystwyth. Mewn trafodaeth gyda’r tir, mae’i hymddygiad, ei chyflymdra, ei siâp yn cael eu ffurfio wrth i’r dŵr llifo, mae gweithgareddau dynol yn ymyrryd. Mae’i lliw a’i chyfansoddiad yn llygredig, ei llif yn doredig, ei llwybr wedi’i ail-gyfeirio.
Mae’r darn hwn yn portreadu’r afon mewn pum lleoliad ar hyd ei gwastadedd arfordirol. Dyma sioe sleidiau i gyfeiliant sgôr gerddorol rannol-fyrfyfyr ar gyfer gitâr unigol, wedi’i recordio mewn ymateb i ddelweddau a llais cofnodedig yr afon.  Yn ychwanegol at hyn ceir haen o gyfweliadau gan nifer o gymeriadau, pob un gyda'i safbwynt unigryw ei hun am y dirwedd, a rhyngddynt, ceir darnau o  farddoniaeth sy’n berthnasol i afon Rheidol. Mae’r hanesion daearegol, biolegol, technolegol a diwylliannol am afon Rheidiol wedi eu clymu ynghyd. Maent yn rhannu ffynhonnell gyffredin, cyfansoddiad cyffredin ac yn y pen draw, cyrchfan gyffredin. Er eu bod nhw’n un, mae pob un hefyd yn gweithredu ar wahân dros gyfnodau amser gwahanol.

Owner:
brian swaddling
Crëwr:
brian swaddling
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2018
Eitem wedi’i llwytho:
1/11/2021
Gwelediadau:
1016
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment