Llythyr oddi wrth William Meloch Hughes at Llwyd ap Iwan, 7 Chwefror 1884 [tudalen 1, delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Ymfudodd William Meloch Hughes i Batagonia ym mis Ebrill 1881. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, cafodd ei benodi yn athro yn ysgol Moriah, ger Trelew. Cyhoeddwyd ei atgofion am fywyd yn y Wladfa yn y gyfrol 'Ar lannau'r Gamwy ym Mhatagonia' (1927).
Ysgrifenna Hughes i ddiolch i Llwyd ap Iwan am ei lythyr ac i ymddiheuro am oedi cyn ateb. Mae'n mynd yn ei flaen i drafod gwahanol agweddau ar fywyd yn y Wladfa. Dywed ei fod yn deall yn awr pam fod y llythyrau a'r adroddiadau sy'n cyrraedd Cymru yn cynnwys cymaint o wahaniaeth barn ynghylch y Wladfa. Yn gyffredinol, mae teimlad yng Nghymru fod rhai sylwebyddion yn rhy barod i ganmol y wlad, tra bod eraill yn llawer rhy feirniadol ohoni. Yn ei farn ef, mae pobl yn adrodd am y Wladfa yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain. Os ydynt yn dlawd ac yn brin eu hadnoddau, bydd eu llythyrau a'u sylwadau yn adlewyrchu hynny.
Mae Hughes yn mynd yn ei flaen i sôn am y cynhaeaf ('tymor o lwyddiant rhanol ydyw eleni eto'), a'r cynlluniau dyfrhau sydd ar droed yn y Wladfa. Mae camlas fawr, saith milltir o hyd a phedair llath a hanner o led, yn cael ei chloddio ar ochr ddeheuol Afon Camwy. Dywed hefyd fod milwyr y llywodraeth wedi dychwelyd i'r ardal, ar ôl bod yn ymlid y bobl frodorol. Roedd Albanwr o'r enw Anderson yn eu plith. Cyfreithiwr oedd Anderson o ran galwedigaeth, ac yr oedd wedi teithio ar draws y berfeddwlad gan weld nifer o ryfeddodau. Roedd hefyd wedi cyfarfod y Cymry oedd yn archwilio'r tiroedd hynny ar y pryd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment