Skip to main content

'Ymweliad y Parchn. Michael D. Jones a David Rees a'r Wladfa Gymreig' (Y Bala, 1882) [tudalen 1, delwedd 1 o 24]

Disgrifiadau

Adroddiad manwl a baratowyd gan y Parch. Michael D. Jones a'r Parch. David Rees yn dilyn eu hymweliad â’r Wladfa ym 1882. Gadawodd y ddau ddociau Lerpwl ar 28 Ionawr 1882 ar fwrdd yr agerlong 'Maskelyne'. Ar ôl iddynt gyrraedd Buenos Aires bu'r ddau yn cyfarfod gyda'r Arlywydd Julio Argentino Roca a ddywedodd ei fod yn fodlon cynorthwyo'r Cymry i chwilio am diroedd newydd y tu hwnt i Ddyffryn Camwy. Hwyliodd y ddau Gymro i Batagonia ar fwrdd y 'Monte Leon', gan gyrraedd ar 12 Mawrth. Treuliodd y ddau bum mis yn y Wladfa ac yn ystod y cyfnod hwnnw cawsant gyfle i ymweld â nifer o gartrefi, ysgolion, capeli a mannau eraill o ddiddordeb. Mae'r adroddiad hwn, a luniwyd yn fuan wedi iddynt ddychwelyd adref, yn cynnig arolwg manwl o fywyd yn y Wladfa. Mae'r awduron yn trafod pynciau megis amaethyddiaeth, yr hinsawdd, bywyd gwyllt, gwaith a chyflogau, diwydiant, tai, addysg a'r Indiaid brodorol. Yn olaf, maent yn argymell y dylid chwilio am diroedd newydd ar gyfer ymfudwyr Cymreig yn y dyfodol, ac y dylid rhoi mwy o bwyslais ar fagu anifeiliaid yn hytrach na thyfu cnydau. Mae'r awduron hefyd yn cynghori darpar-ymfudwyr i fynd â'r eitemau canlynol gyda hwy i'r Wladfa gan eu bod mor brin yno: dodrefn o safon, olwynion a sbrings cerbydau, bachau drysau, morthwylion ac edafedd hosanau.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Jones, Michael D. & Rees, David
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
cnp00704
Eitem wedi’i llwytho:
12/4/2010
Date originally created:
1882
Gwelediadau:
1006
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment