'Patagonia: a description of the colony' gan Jonathan Ceredig Davies (1892) [clawr, delwedd 1 o 18]
Disgrifiadau
Roedd Jonathan Ceredig Davies (1859-1932) yn frodor o Sir Aberteifi. Ymfudodd i'r Wladfa ym 1875 pan oedd yn 16 oed. Treuliodd 16 mlynedd yno yn amaethu a phregethu, gan gynnal gwasanaethau crefyddol ar ran yr Eglwys. Yn ystod ei gyfnod ym Mhatagonia bu'n astudio arferion y bobl frodorol. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru bu'n darlithio ar ei brofiadau yn Ne America. Cyhoeddwyd y fersiwn Gymraeg o'r ddarlith 'Patagonia: a description of the colony' ym 1891, gydag ailargraffiad yn ymddangos ym 1892, a'r cyfieithiad Saesneg hefyd yn dod o'r wasg ym 1892. Roedd ei nofel 'Adventures in the Land of the Giants', a gyhoeddwyd ym 1892, hefyd yn seiliedig ar ei brofiadau ym Mhatagonia. Ym 1898, ymfudodd i orllewin Awstralia. Yn ystod y deng mlynedd y bu yno, ymddiddorodd ym mywyd ac arferion y brodorion. Roedd yn awdur ar nifer o erthyglau a llyfrau ar lên gwerin ac achyddiaeth. Bu farw yn Llanddewibrefi ym 1932.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment