Ray Smith yn siarad am Saesneg sir Faesyfed
Disgrifiadau
Ray Smith yn sôn am ei gefndir ieithyddol.
Clip fideo yn Saesneg. Cyfieithiad:
"Ces i fy ngeni mewn pentref bychan o’r enw Llangynllo, sy’n digwydd bod am y ffin â Lloegr. Mae e am y ffin â swydd Amwythig yn arbennig ac mae’n weddol agos at swydd Henffordd hefyd. Saesneg oedden ni’n siarad yn y cartref pan oeddwn i’n blentyn, ac roedd fy mam yn gallu siarad ychydig bach o Gymraeg, ond doedd fy nhad ddim ac felly wrth gwrs doedden ni ddim yn gwneud chwaith. A doedd yna ddim Cymraeg yn yr ysgolion beth bynnag, felly rhyw fath o Saesneg Sir Faesyfed yw hi, os oes yna’r fath beth.
Bydd pobl yn cael trafferth fel arfer i wybod o lle rwy’n dod. Hyd yn oed os dyweda’ i wrthyn nhw o le rwy’n dod, dydyn nhw ddim yn gwybod lle mae e. Mae Sir Faesyfed yn un o’r siroedd bach coll hynny, mae arna’ i ofn, wedi ei chuddio mewn rhyw gornel fach o Gymru, reit ar y ffin â Lloegr. Ac felly dyna mewn gwirionedd lle ces i fy acen, welwch chi. Pobl yn byw ac yn gweithio y naill ochr a’r llall i’r ffin, ac yn priodi ar draws y ffin wrth gwrs. Ar un adeg – rywbryd tua chan mlynedd neu fwy yn ôl pan oedd yna fwy o Gymraeg yn cael ei siarad y ddwy ochr i’r ffin, yn swydd Henffordd ac yn sir Faesyfed. A dweud y gwir, mae rhai o’r enwau lleoedd yn dal i fod heddiw, enwau lleoedd yn Gymraeg yn swydd Henffordd. Er mai yn swydd Henffordd mae Llandinabo yn bendant i chi, mae pobl yn dal i gyfeirio atyn nhw fel Cymry."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment