Skip to main content

Saesneg

Saesneg yw unig iaith y mwyafrif o bobl yng Nghymru. Nid felly y bu erioed.
Bedair canrif yn ôl, dim ond 7 miliwn o bobl oedd yn siarad Saesneg, ac nid oedd llawer o sôn am yr iaith y tu allan i Ynysoedd Prydain. Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o Gymru, ar wahân i ambell i ardal a anheddwyd gan y Normaniaid, fel De Penfro a Bro Gwyr. Clywid y Gymraeg dros y ffin yn Lloegr, hyd yn oed, yn swydd Henffordd a rhannau o sir Fynwy.
Rhwng teyrnasiad Elisabeth I (1603) ac Elisabeth II (1952), tyfodd y nifer o siaradwyr Saesneg i 250 miliwn. Ac ers y 1950au, bu cyflymdra a maint y cynnydd hyd yn oed yn fwy syfrdanol. Erbyn hyn, mae tua chwarter poblogaeth y byd yn medru rhywfaint o Saesneg, ac mae'r nifer yn dal i dyfu.
Er mai Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf i ddioddef oherwydd lledaeniad yr iaith Saesneg, ni Seisnigwyd y wlad dros nos. Mae gan bob rhan o Gymru stori wahanol i'w dweud o safbwynt y Saesneg, ac fe adlewyrchir hyn yn yr acen neu'r dafodiaith Saesneg leol. Seisnigwyd rhai ardaloedd (megis De Penfro) ganrifoedd lawer yn ôl, tra bod ardaloedd megis y de-ddwyrain diwydiannol wedi troi i'r Saesneg yn gymharol ddiweddar. Mewn sawl rhan o Gymru, ail iaith yw'r Saesneg gan fod y Gymraeg yn dal i fod yn iaith feunyddiol i'r trigolion. Gellir clywed dylanwad ardaloedd Saesneg cyfagos, megis Cernyw neu swydd Henffordd, ar acenion Saesneg rhai Cymry. Yn iaith eraill, mae geirfa a phatrymau'r Gymraeg i'w clywed yn y Saesneg o hyd.
Gwrandewch ar Ray Smith sy'n hanu o Sir Faesyfed. Mae ei acen yn wahanol iawn i'r darlun arferol o acen Gymreig, er ei bod mor Gymreig ag acen unrhyw ran arall o Gymru.

Gwelediadau:
2555
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
31/07/2009

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment