Captaen D Williams O.B.E., Llynges Fasnachol
Disgrifiadau
Yn ystod y rhyfel, roedd Capten Williams yn bennaeth ar long yng ngogledd yr Iwerydd, ar yr hyn a elwid yn gonfoi Rwsaidda. Yn ystod y cyfnod hwn, dyfarnwyd gwobr O.B.E iddo am 'ei wasanaeth yn Mor
yr Iwerydd a hefyd Medal Dewrder am suddo Llong danfor Almaenaiddd yn yr un ardal. Yn ddiweddarach, cafodd ei daro'n waelac fe'i cymerwyd i ysbyty milwrol U. S ac oddi yno, cludwyd adref ar y Queen Mary. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach ym mis Mai 1948, canlyniad uniongyrchol i'r rhyfel. Fe wnaeth Capten Williams, a oedd yn byw ym Mhlas Rhiwgreiddyn, Ceinws gynghori Ken Rowlands i ymuno â'r Llynges Frenhinol. Pasiodd Ken yr arholiadau mynediad ac roedd y cyfan yn barod iddo ymuno ond gwrthododd ei fam lofnodi'r ffurflenni caniatâd. Roedd ei gŵr, Tom Rowlands, eisoes yn ymladd yn y fyddin ac nid oedd am fentro colli'r ddau. Pan oedd Ken yn iau, rhedodd i ffwrdd i Lerpwl i geisio ymuno â'r llynges fasnachol. Cyflwynodd ei hun i'r swyddog recriwtio a gofynnwyd iddo beth oedd ei oedran; dywedodd ei fod yn ddwy ar bymtheg (er nad oedd hynny'n gywir). Yna dywedodd y swyddog wrtho am ddod yn ôl pan oedd yn hŷn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment