Skip to main content

Chwarel Rhwigreiddyn

Rhai lluniau gafodd eu tynnu gan Ray Gunn o amgylch ac o dan chwarel lechi Rhiwgreiddyn, Ceinws / Esgairgeiliog - o'r tomenni gwastraff llechi i'r pentref a draw dros y caeau oedd newydd eu hadfer. Hefyd ffotograff o ddarn bychan o hen ffordd y cyngor islaw'r chwarel gafodd ei chau yn 1895 pan gafodd y ffordd ei chysylltu i fyny i'r dramffordd er mwyn gwneud lle i waredu mwy o wastraff.

Mae'r domen lechi islaw chwarel Rhiwgreiddyn, rhwng y ffordd ac Afon Dulas, yn cynnwys gwastraff o'r rhan fwyaf newydd o'r chwarel sy'n agor nesaf at y ffordd. Mae'n bosib bod yna fynedfa arall yn is i lawr, ar yr un lefel â hen ffordd y cyngor, gafodd ei chau er mwyn gwneud lle i hyd yn oed mwy o wastraff. Mae'r domen hefyd yn cynnwys darnau gwastraff o lechen o'r felin lechi.

Yn 2002 dechreuodd Scotish Power ddefnyddio'r domen er mwyn storio a pharatoi polion newydd yn barod i'w cludo er mwyn cyfnewid yr hen rai gyda rhai newydd ar ochrau'r mynyddoedd a llefydd pellennig, anhygyrch o gwmpas yr ardal.

Roedd edrych ar yr hofrennydd yn codi ac yn cludo pob polyn, gan ddychwelyd ychydig funudau wedyn am un arall, yn brofiad gwahanol ac arbennig iawn, ac roedd yn rhywbeth na fyddai'r hen chwarelwyr fyth wedi dychmygu ei fod yn bosib.

Gwelediadau:
1356
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
18/11/2019

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment