Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Iberia Newydd, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 3 Rhagfyr 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn dweud fod y gwŷr meirch wedi dal pump o'r gwrthryfelwyr a dau swyddog yn Saint Martinville neithiwr. Dywed fod y gwrthryfelwyr yn cadw draw heddiw wedi'r gwŷr meirch eu tynnu i mewn i gudd-ymosodiad neithiwr.
Fe fu John yn casglu ŷd echdoe. Mae'n sôn iddo weld rhai gwrthryfelwyr ond eu bod wedi cadw ddigon pell i ffwrdd. Mae'n cyfeirio at William A. Thompson sy'n dychwelyd adref yfory ar ôl dim ond chwedeg diwrnod yn y gatrawd. Mae'n ei ddisgrifio rhag ofn iddo fynd i weld ei rieni.
Mae John yn gofyn i'w deulu sut maent am dreulio dydd Nadolig
'mi faswni yn leicio bod yna dydd Nadolig yn caul rhan or breintiau ond gwelwch mai fel hyn i mau arnaf nid ous dim gwybodaeth pa le fyddaf i y dydd nadolig'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment