Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin,17 Awst 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn sôn ei fod wedi bod yn dioddef o'r 'cryd' ers wythnos neu ragor ond y mae yn gwella yn awr. Dywed fod y bechgyn i gyd wedi dioddef a fod T. E. Hughes a J. W. Jones wedi cael gwres, er bod y ddau yn well erbyn hyn.
Yn ôl John, y mae cyfarfodydd y capel yn orlawn pob dydd Sul gyda phregeth yn y bore, ysgol Sul yn y prynhawn, a chyfarfod gweddïo yn y nos. Mae'r trigolion cystal â'r milwyr am fynychu ac mae pedwar enwad. Nid oes Caplan yn eu catrawd hwy ar ôl i'r un cyntaf gael ei ladd ym Milliken's [Bend] y gwanwyn diwethaf.
Mae John yn dweud ei fod yn anfon ei lyfrau adref oherwydd nad oes lle i'w cadw'n hwylus. Mae T. E. Hughes wedi ysgrifennu llythyr at y Drych yn ddiweddar, a J. W. Jones at y Cyfaill. Y mae J. W. Jones yn cofio atynt.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment