Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, Cincinnati, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 24 Hydref 1862 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn diolch i'r Arglwydd am ei gadw mewn cystal iechyd.
Mae'n gobeithio fod pawb yn iach yn ardal Salem. Mae wedi clywed sôn fod Jane Evans wedi priodi. Gofynna os yw hyn yn wir ond mae'n cofio ati beth bynnag.
Yr unig beth y mae'n ei golli yw'r Capel yn Salem ac mae'n dweud eu bod yn cyflwyno'u hunain i'r Arglwydd ar bob cyfle. Mae wedi mwynhau darllen y Testament a gafodd gan Ann Jones, ac mae'n dweud ei fod ef a milwyr eraill yn cwrdd bron bob nos i weddïo.
Mae'n anfon neges ymlaen oddi wrth filwr Cymraeg eraill, nid yw wedi clywed oddi wrth ei deulu.
Ar ben y llythyr hwn y mae llun printiedig a chapsiwn sy'n darllen
'The Captured Battery'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment