Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, Camp Bates, Kentucky, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 28 Medi 1862 [tudalen 1 o 2]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, Camp Bates, Kentucky, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 28 Medi 1862 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Wrth ysgrifennu o'r camp, chwe milltir o Cincinnati, pwysleisia John unwaith eto fod ei iechyd yn well nac erioed.
Ar y 27ain o'r mis, fe gymerodd ei frigâd ran mewn arolygiad o flaen y brigadydd cyffredinol. Roedd tua chwe mil ohonynt yno a golwg hardd arnynt. Roedd band pres yno hefyd yn 'gwneyd twrw dychrynllyd'. Bu'n rhaid iddynt gerdded chwe milltir i gyrraedd safle'r arolygiad ond roeddynt yn derbyn canmoliaeth uchel lle bynnag yr aent. Roedd y criw i gyd wedi bod ar y piced wythnos diwethaf, bedair milltir o'r gwersyll. Mae John yn dweud eu bod yn cadw ysgol ar ddydd Sul a'i fod yn ddiwrnod eithaf ysgafn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment