Skip to main content

Seindyrf; hanesion bandiau pres, ardaloed chwareli llechi Gogledd Cymru.

Disgrifiadau

SEINDORF ARIAN LLAN FFESTINIOG13/07/1895PAPUR PAWB Wele ddarlun o'r seindorf sydd wedi enill mwyaf o wobrwyon yn Ngogledd Cymru yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Yr hyn gynhyrfodd amryw o ddynion ieuainc cerddgar i sefydlu seindorf (yr hyn a wnaed yn 1883) ydoedd ymweliad seindorf enwog Llanrug a'r Llan, pan yn anterth eu gogoniant, i wasanaethu Cymdeithas yr Odyddion, o dan arweiniad Mr Tidsweil. Mae llwyddiant dilvnol y seindorf i’w briodoli yn benaf i’w sêl gerddorol eu hunain, ac hefyd i vmdrech neilltuol eu dau arweinydd lleol, sef yn y blynyddoedd cyntaf, Mr Richard Dwyryd Roberts, Clogwyn Brith (yn awr yn aelod o Seindorf Heddgeidwadol Abertawe) Ar ei ymadawiad ef dewiswyd Mr John M. Jones yn arweinydd, yr hwn sydd yn aelod gweithgar er y cychwyniad, ac sydd hefyd wedi profi ei hunan yn arweinydd rhagorol fel y tystiodd Mr Gladney lawer tro, tra mae y ffaith ei fod wedi paratoi detholiadau o Wagner Gounod, Schubert, Mozart, Balfe, Handel, Herold, a llu ereill, i'r fath berffeithrwydd cyn ymweliad Mr Gladney yn brawf diymwad o'i alluoedd fel arweinydd. Ar wahan y mae y seindorf wedi derbyn addysg werthfawr ar wahanol adegau gan Meistri J. R Tidswell, G.B Birkenshaw, A. Owen , J Ryder, Fred Durham, J. Billam, A.Holden ac vn awr, ers rhai blynyddoedd, gan vr enwog John Gladney, Manchester. Hefyd, talasant ymweliad amryw weithiau ar rhan fwyaf o drefi Gogledd Cymru vn ogystal a Manchester. Uchelgais y seindorf yw chwareu mewn cystadleuaeth heb gynnorthwy aelodau taledig o Loegr, yr hyn sydd wedi bod yn felldith i seindyrf Cymru yn y gorphenol. Bu’r seindorf hon yn chwareu o dan feirniadaeth prif gerddorion Cymru a Lloegr, a chawsant nodiadau hynod o ffafriol ganddynt oll . Er iddynt golli amryw weithiau, teimlant yn hollol foddlawn i'r dyfarniad ond ar ddau amgylchiad, ac ni bydd dim yn fwy boddhaus ganddynt yn y dyfodol na gweled amryw o seindyrf Gogledd Cymru yn myned a'r llawryf oddiarnynt fel chwareuwyr yn cael eu gwneyd i fvny o aelodau Cymreig. Wele ychydig ddyfyniadau o'r beirniadaethau :-
 "Mewn rhai o'r symudiadau, meddyliwn fy mod yn gwrando ar seindorf o broffeswyr”. Jos. Bennet."Mynegiant, tonyddiaeth, a brawddegiant ardderchog. Seindorf yn dangos dysgyblaeth fedrus. —J. A. Ainsworth, Chorley."Seindurf yn chwareu gyda llawnder, chwaeth, a medusrwydd neilltuol."D Kmlyn Evans."Perfformiad mawreddog, anhawdd i'w orchfygu” J. Parry."Bravo, mawreddog; chwareuad uwchraddol.” Mons. J, Riviere, Llandudno."Ym mhell ar y blaen; chwareuad ardderchog." J. North, Huddersfield."Seindorf ardderchog, yn cael dysgyblaeth dda." D. Jenkins, Mus. Bac."Chwareuad o 'Teilwng yw'r Oen' yn mhell o flaen y seindyrf ereill, mewn tonyddiaeth, llawnder, a glanweithdra,"—C. F. Lloyd, Mus. Bac."Chwareruad y seindorf fuddugol yn meddu teilyngdod neillduol."—George Miller, Mus. Bac.

Owner:
LLeCHI LleNI
Crëwr:
13/07/1895 PAPUR PAWB
Gwybodaeth drwydded
13/07/1895 PAPUR PAWB
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
12/11/2024
Date originally created:
27/11/2024
Gwelediadau:
160
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment