8 Peiriant rhwymo, llun agos, yn 1951
Disgrifiadau
Y peiriant mwyaf cymhleth ym myd ffermio ar y pryd hwnnw. Cafodd ei adeiladu fel peiriant wedi ei dynnu gan geffyl, ac roedd un olwyn fawr rychiog yn y canol yn fras, sy'n gyrru'r holl fecanwaith gyda chadwyni ac olwynion danheddog.Roedd cyllell yn mynd yn ôl ac ymlaen yn torri'r cnwd, gyda'r 'malwod' yn ei bwyso i lawr yn daclus ar y canfas y tu ôl, sy'n ei rannu i ddau neu fwy o ganfasau eraill sy'n ei gludo i fyny ac yn ei ollwng i lawr i'r dec,lle roedd y clymwr yn ei glymu gyda chortyn bêl, ac roedd tair braich yn ei daflyd allan, gan adael y cyfan yn glir ar gyfer y llwyth nesaf. Tynnais y llun yma tra'n torri cnwd ar gyfer y cymdogion yn Wellstone;nith oedd wedi dod i ymweld â nhw yw'r ferch brydferth yn y llun ac roeddwn i wedi gallu cyfuno tynnu llun ohoni hi ac un o'n peiriant ni!
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment