Skip to main content

Merched Beca

Ymosod ar Efailwen

 

Ar 13 Mai 1839, dinistriodd torf o ddynion y dollborth yn Efailwen, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Dyma oedd y cyntaf o gyfres o ymosodiadau a barodd tan 1844 ac a ddaeth i’w hadnabod fel Terfysgoedd Beca.

 

Er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd gyda’u sefyllfa, penderfynodd y protestwyr dargedu symbol o ormes economaidd: y dollborth. Roedd cyfres o gynaeafau gwael ynghyd â rhenti uchel, taliadau’r degwm, trethi’r tlodion a thollau’r ffyrdd tyrpeg yn golygu fod sefyllfa economaidd y mwyafrif yng nghefn gwlad Cymru yn druenus. 

Protestiadau pellach

 

Yn dilyn ychydig o ymosodiadau yn ystod Mai 1839, gan gynnwys y tollborth ar Heol y Dŵr yng Nghaerfyrddin, tawelodd eu gweithgarwch am ychydig o flynyddoedd.  Ail-ymddangosodd protestwyr ym mis Mehefin 1842 gydag ymosodiad ar y tollborth yn Llandeilo Rwnws ger Nantgaredig, ac yn ystod gaeaf 1842-43 dilynodd cymunedau eraill eu hesiampl.  Ymledodd yr ymosodiadau ar draws de orllewin Cymru, i Forgannwg, Sir Faesyfed a Brycheiniog ac ehangwyd y targedau i gynnwys eiddo landlordiaid a gweithdai’r tlodion.  Bu’n agos at 300 o ymosodiadau erbyn diwedd y gweithgarwch ym 1844, gan gynnwys un ar y tloty mawr yng Nghaerfyrddin.

Pwy oedd Rebecca?

 

Mae tarddiad yr enw ‘Merched Beca’ neu ‘Derfysgwyr Beca’ yn aneglur.  Roedd y ffermwyr wedi gwisgo fel menywod gyda wynebau duon ac, yn ôl un stori, ‘Beca’ oedd ffermwraig gref o ardal Efailwen a oedd yn ddigon mawr i fenthyg ei dillad i’r dynion mawr.  Ond, y gred gyffredinol yw mai adnod yn y Beibl sy’n sôn am ddisgynyddion Rebeca (Genesis 24:60) yw tarddiad yr enw.

Diwedd y terfysgoedd

 

Roedd gweithredoedd Merched Beca yn adleisio’r traddodiad o gyfiawnder torfol a chymunedol o Geffyl Pren ble roedd gwisgo a defod yn chwarae rhan bwysig.

Daeth protestiadau Beca i ben ym 1844, yn bennaf oherwydd gwelliant i gyfreithiau’r tyrpeg a ostyngodd y tollau.  Bu gwrthryfel Merched Beca yn llwyddiannus yn yr ystyr hwn ac mae’r hanes hynod yn fyw hyd heddiw.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment