Skip to main content

Arthur Linton: Y Pencampwr Beicio o Aberdar

Dyffryn o Seiclwyr

Mae'n rhaid fod rhywbeth yn y dŵr yng Nghwm Cynon ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Roedd y cwm, a thref Aberaman yn enwedig, yn ardal fagu seiclwyr rhyngwladol enwog.

Roedd Aberaman yn gartref i bedwar o seiclwyr a oedd ymhlith y goreuon yn y byd: y brodyr Linton, Arthur, Tom a Samuel; a Jimmy Michael.  Roedd Arthur Linton a Jimmy Michael yn gystadleuwyr mawr. Daeth y ddau yn Bencampwyr Byd a dilynodd bywydau'r ddau lwybr rhyfedd o gyflinellol a dadleuol.

Enwogrwydd yn Ffrainc i Linton

Daeth seiclo'n boblogaidd yn ystod y 1880au a'r 1890au yn dilyn dyfeisio'r beic gyriant cadwyn ddiogel, a ffurfiwyd Clwb Beiciau Aberdâr ym 1884. Erbyn 1890 roedd wedi datblygu'n glwb rasio a thua'r adeg hon fe ddechreuodd Arthur Linton rasio'n lleol.  Erbyn 1892 roedd yn adnabyddus ledled de Cymru a dros y ddwy flynedd nesaf daeth ei enw'n adnabyddus yn rhyngwladol.

Ym 1893 torrodd record un awr y byd, gan seiclo 22 milltir ar drac seiclo yng Nghaerdydd, a thorri'r record a grëwyd ychydig ddiwrnodau'n gynharach gan y Ffrancwr Henri Desgranges, a aeth yn ei flaen i sefydlu'r Tour de France.

Enillodd y fath orchestion enw rhyngwladol i Linton ac yng ngaeaf 1893 gadawodd am Baris lle'r oedd seiclo, o bell ffordd, y gamp fwyaf poblogaidd. Yma, rasiodd Arthur o flaen tyrfaoedd o dros 15,000 o wylwyr mewn rasys hyd at gan filltir o hyd.  Ar ddechrau mis Ionawr 1894 curodd Linton bencampwr Ffrainc Dubois mewn ras 100 milltir a gyda'r fuddugoliaeth honno enillodd glod yn Ffrainc.

Sialens Fwyaf Linton

Dros y ddwy flynedd nesaf, rasiodd Linton yn Ffrainc yn bennaf gan fod y rasys o safon uwch nag ym Mhrydain.  Ym 1894 dechreuodd weithio gyda hyfforddwr newydd, 'Choppy' Warburton.  Gyda'i gilydd fe hyfforddon nhw ar gyfer rasys pellter hir ac mae sôn i Warburton weithio Linton yn galed gydag amserlen hyfforddi lethol.  Yn ystod 1894 enillodd Linton gyfres o rasys a cafodd y teitl 'Pencampwr Seiclo'r Byd'.

O dan arweiniad Warburton dechreuodd Linton ar her fwyaf ei yrfa. Ym 1895 cafodd anaf i'w ben glin ond parhaodd i hyfforddi ac i rasio er mwyn paratoi ar gyfer y ras fawr o Bordeaux i Baris, tua 350 o filltiroedd. Roedd Linton yn ymddangos ei fod wedi ymlâdd cyn y ras, ac roedd fel pe bai'n cael trafferth drwyddi ond derbyniodd gymorth oddi wrth Warburton ym mhob cyfnod o'r ras. 

Y cymorth hwn oddi wrth Warburton, gwahanol gymysgiadau o boteli bach, oedd wrth wraidd y dybiaeth sydd wedi pardduo enw Arthur Linton byth ers hynny.  Roedd honiadau y rhoddodd Warburton gyffuriau i Linton i'w alluogi i barhau; dywedwyd na allai unrhyw un barhau yn ei gyflwr ef, heb sôn am fynd ymlaen i ennill y ras.

Cam yn rhy bell

Cadarnhaodd buddugoliaeth Linton ei enw fel seiclwr gorau'r byd.  Fodd bynnag, tyfodd y dybiaeth ynglŷn â thactegau cyffuriau Warburton pan fu farw Linton yn annisgwyl dim ond chwe wythnos ar ôl y ras. 

Roedd fel pe bai'n cadarnhau'r drwgdybiaethau fod y seiclwr wedi cael cyffuriau gan Warburton ac mai dyna achosodd ei farwolaeth.  Ond mae ymchwil wedi dangos y bu Linton farw o dwymyn Teiffoid ar 23 Gorffennaf 1896.  Mae'n ymddangos i'r ras fod mor galed ar ei gorff fel nad oedd yn medru gwrthsefyll yr afiechyd a bu farw'n 28 oed. 

Nid oes tystiolaeth fod cyffuriau wedi chwarae unrhyw ran yn ei orchestion na'i farwolaeth.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment