Injan Eisteddfod Genedlaethol
4 Awst 1987
Roedd 4 Awst 1987 yn ddiwrnod braf, ac wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, roedd cyffro mawr yng ngorsaf drenau Porthmadog. Gyda’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn nhref Porthmadog am y tro cyntaf ers dros ganrif, roedd yr ymweliad yn gyfle i ddathlu ym mhob ffordd ac ym mhob maes.
Wrth i’r cloc agosau at 18.00, dechreuodd seremoni arbennig iawn yn yr orsaf drenau wrth i enw ar blac hardd ar ochr injan 37 429 gael ei ddadorchuddio. A’r enw – Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Roedd yr aelod seneddol lleol, Dafydd Elis-Thomas, yn rhan o’r dathlu, a chydag ef yr oedd John Gruffydd Jones, a oedd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ym Mhorthmadog yr wythnos honno. Yn gwisgo’i Goron a’r clogyn seremonїol, roedd y Prifardd yn cymryd rhan yn ei ddigwyddiad swyddogol cyntaf fel y Bardd Coronog.
Trên Eisteddfod Genedlaethol
Roedd cwmni British Rail wedi rhedeg trenau arbennig i’r Eisteddfod yn ystod yr wythnos a’r seremoni hon oedd yr uchafbwynt i lawer, gan gynnwys y rheini sy’n mwynhau dilyn hynt a helynt injans ym mhob cwr o’r wlad. Roedd cyfnod yr injans traddodiadol yn dechrau dirwyn i ben wrth i’r genhedlaeth nesaf o drenau ‘Sprinter’ ymddangos ar fwy a mwy o leins rheiffordd ein gwlad, felly roedd y seremoni o enwi’r injan hon ar ôl un o wyliau mwyaf y byd yn symbolaidd iawn.
Roedd yr ‘Eisteddfod Genedlaethol’ wedi’i hadeiladu rhwng 1964 a 1965, yn pwyso can tunell ac yn teithio ar gyflymder o hyd at 80 m.y.a. Cychwynnodd ei gwasanaeth ar 28 Awst 1965 a’i chartref cyntaf oedd cwt injans Treganna Caerdydd. Rai blynyddoedd ar ôl yr Eisteddfod ym Mhorthmadog, fe symudwyd yr injan i’r sector cario llwythi, ac fe’i hail- beintiwyd yn ei lliwiau gwreiddol. Ond mae’n rhaid mai cyfnod byr yn unig a dreuliodd yr injan yn cario llwythi, gan ei bod wedi dychwelyd i waith teithwyr erbyn 1993 gan deithio’n rheolaidd ar hyd arfordir y gogledd gan gludo teithwyr am y tro olaf ddiwedd 2000.
Edrych yn ôl
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2010 cyhoeddodd gwefan ‘North Wales Coast Railway’ erthygl gan ‘Dave Trains’ gyrrwr olaf yr injan, a fu’n hel atgofion am ei gyfnod yn gyrru’r injan ac am ei thaith olaf ar 30 Rhagfyr 2000 pan roddwyd y gorau i ddefnyddio injans dosbarth 37 i gludo teithwyr ar hyd arfordir y gogledd.
Meddai, “Roedd 30 Rhagfyr 2000 yn ddiwrnod oer gyda blanced o eira. I mi a nifer o gefnogwyr eraill y byd trenau roedd hefyd yn ddiwrnod trist ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gyda’r daith swyddogol olaf gan injan dosbarth 37 yn rhedeg gwasanaeth teithwyr rheolaidd.”
Mae’n disgrifio’r daith ar draws y gogledd gan gyrraedd yr orsaf olaf ar y tir mawr, “Bangor am 15:16 – cyfle arall i dynnu lluniau a rydan ni’n cymryd ein hamser y tro hwn wrth i’r chwiban gael ei chwythu a’r giard yn camu’n ôl a blaen yn cau’r drysau. “Rydan ni’n hwyr,” meddai fo. “Dim ots” meddwn innau. “Dydi amser ddim yn cyfrif wrth greu hanes.” I ffwrdd â ni gyda ffenest y cab ar agor, un rhuad olaf wrth i ni fynd drwy dwnel Belmont dros y bont ac i ffwrdd â ni allan o afael y cyfyngiad cyflymder o 40 m.y.a.
“Rydan ni’n cyrraedd platform rhif 3 Caergybi ac yn gweld llawer o hen ffrindiau cyn cael tynnu fy llun. Mae rhan o fy mywyd dyddiol am y tair blynedd a hanner diwethaf wedi dod i ben ac mae o fel colli rhywun sy’n annwyl na fydd byth yn dychwelyd.”
Beth ddigwyddodd i'r plac?
Felly daeth dyddiau’r 37 429 i ben, ac fe gafodd yr injan ei sgrapio ar 8 Chwefror 2008, ond beth a ddigwyddodd i’r enw ac i’r plac hardd a ddadorchuddiwyd adeg yr Eisteddfod bedair blynedd ar hugain yn ôl? Mae’r darn unigryw yma o hanes yr Eisteddfod ac o drenau yng Ngogledd Cymru wedi ei golli erbyn hyn. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth amdano, beth am adael sylw yma i’n helpu ni ddatrys dirgelwch plât ‘Eisteddfod Genedlaethol’ y 37 429.
Oes gennych chi ragor o wybodaeth neu ddelweddau yn ymwneud â'r stori yma? Ymunwch a Chasgliad y Werin Cymru, a llwythwch eich eitemau eich hun!
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Mark Etheridge on Sad, 30/07/2016 - 13:06
The name plate is now in the care of Amgueddfa Cymru - National Museum of Wales. See blog post - https://museum.wales/blog/2016-02-25/A-Window-into-the-Industry-Collect…
I believe it is currently (July 2016) on display at the the Eisteddfod in Abergavenny. See https://www.peoplescollection.wales/collections/511223
You must be logged in to leave a comment