Dodrefn Bryn-mawr
Dyluniwyd dodrefn Bryn-mawr gan y crefftwr Paul Matt, a oedd yn Grynwr ac yn fab i saer dodrefn o Hambwrg. Cafodd Matt ei ysgogi i ddod i Gymru wedi iddo glywed Joan Mary Fry yn areithio am gyflwr y di-waith yno. Roedd am greu dodrefn syml a chadarn a fyddai’n addas ar gyfer gweithlu gweddol ddibrofiad. Arbrofodd gyda phaneli pren haenog wedi’u lamineiddio mewn fframiau peflog ac wedi’u gorffen â farnais clir. Cafodd ei ysbrydoli gan bensaernïaeth fodern y cyfnod, y mudiad Celfyddyd a Chrefft ac Art Deco. Daeth y steil syml hwn yn nodweddiadol o ddodrefn Bryn-mawr. Cafodd y casgliad ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2016 fel rhan o gyfraniad Amgueddfa Cymru at y stondin Lle Hanes.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment