Skip to main content

Cofebion Rhyfel

Collodd 700,000 o filwyr Prydeinig eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae 35,000 wedi'u henwi yn Llyfr Coffadwriaeth Cymru.

Cafodd y penderfyniad i wahardd dychwelyd cyrff o faes y gad ym 1915 effaith bellgyrhaeddol ar y broses goffau. Adeiladwyd cannoedd o gofebion ledled Cymru gan adlewyrchu'r galw am gofiant uniongyrchol a pharhaol i'r meirw wrth i gymunedau geisio cydnabyddiaeth gyhoeddus am eu colled.

Caiff delfrydau anrhydedd, aberth a theyrngarwch eu hysgythru ar gofebion, a hynny yn Gymraeg a Saesneg neu yn Lladin, fel yn Abertawe. Esgorodd yr Ail Ryfel Byd ar gyfnod newydd o goffau.

Gwelediadau:
6314
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
01/04/2011

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment