Skip to main content

Cofeb Rhyfel Sir Gaerfyrddin: Rhestr Anrhydedd, 1914-1918

Disgrifiadau

Dadorchuddiwyd Cofeb Ryfel Sir Gaerfyrddin gan y Cyrnol John Vaughan Campbell ar 4 Medi 1924.

Mae’r gofeb wedi’i lleoli o flaen yr hen Glafdy Caerfyrddin ar Heol y Prior, Caerfyrddin, ac fe’i cynlluniwyd gan Syr Goscombe John. Ugain troedfedd o uchder yw’r gofeb o ffigwr efydd o filwr o’r Gatrawd Gymreig mewn offer ffos llawn, ar bedestal o wenithfaen Albanaidd llwyd gyda’r arysgrif arno:

“Er cof anfarwol am wŷr Sir Gaerfyrddin, a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr, 1914-1918. Mewn Anghof ni chant fod.

Ynghyd â dadorchuddio’r gofeb, cynhyrchwyd llyfryn cyflwyno yn rhestru enwau pawb o’r sir a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr, 1914-1918.

Cynwysa y rhestr enwau 123 o swyddogion; 254 o swyddogion heb eu comisiynu; 1533 o rengoedd eraill; a thair nyrs: Florence E. Brace, Caerfyrddin; Mary Evans, Abergwili; ac Emma G. Fletcher o Rydaman.

Bu Nyrs Florence (Frances) Ethel Brace yn gweithio yn Inffyrmari Caerfyrddin tan fis Mai 1916 pan adawodd i ymuno ag Ambiwlans Sant Ioan. Cafodd ei hanfon i Ambiwlans Maes yn Salonika, Gwlad Groeg, lle cafodd hi a llawer o rai eraill falaria. Cafodd ei symud i Malta lle bu farw ar ôl dim ond 3 mis o wasanaeth. Bu farw ar 21 Medi 1916, yn 29 oed.

Roedd y Nyrs Emma Grace Fletcher o Rydaman wedi bod yn aelod o staff nyrsio Ysbyty Griffithstown ers iddi adael Ysbyty Stebonheath, Llanelli. Roedd hi'n wreiddiol o Rydaman, lle'r oedd ei thad yn Gynghorydd. Bu farw o niwmonia yn Ysbyty Griffithstown, Sir Fynwy ym mis Tachwedd 1918, yn 28 oed.

Roedd y Nyrs Mary Evans o Abergwili, wedi bod yn Ysbyty Edmonton tua deunaw mis. Dim ond ychydig oriau yr oedd Mary wedi bod yn sâl, a bu farw o'r ffliw, a daliodd tra'n nyrsio cleifion yn yr ysbyty. Bu farw yn Ysbyty Milwrol Edmonton ddydd Mawrth 15 Hydref 1918, yn 30 oed.

Owner:
Carmarthenshire Archives
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
PC140/26
Eitem wedi’i llwytho:
7/8/2024
Gwelediadau:
432
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment