Gwasanaeth Cenedlaethol Byddin Prydain, Bryan Vaughan - 1956-58
Mae Casgliad y Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru, (1947-61/63) a grëwyd gan Age Cymru
Dyfed, wedi'i wneud yn bosib diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dyddiad y cyfweliad: 13eg o Awst, 2025
Lleoliad: Aberporth
Cyfwelydd: Hugh Morgan
Camera: Neil Davies
Bryan Vaughan (1937)
o Aberporth,
Byddin Prydain: Gwniwr yn y Magnelau Brenhinol ym Malaya,
1956 i 1958
Disgrifiad Ysgrifenedig
Mae casgliad Bryan Vaughan yn cynnwys cyfweliad wedi'i ffilmio a ffotograffau o'i gasgliad
personol o'i ddwy flynedd yn y Gwasanaeth Cenedlaethol, lle dreuliodd lawer ohono ym Malaya.
Yn y cyfweliad wedi'i ffilmio, mae Bryan yn cofio atgofion o'i Wasanaeth Cenedlaethol a
ddigwyddodd rhwng 1956 a 1958 ac yna'n cyfeirio at ei 3 blynedd a 160 diwrnod yn gwasanaethu
yng Ngwasanaeth Argyfwng y Fyddin yn syth ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r Gwasanaeth
Cenedlaethol ar 4ydd Mehefin 1958.
Blynyddoedd Cynnar a Galwad i Fyny
Ganwyd Bryan Vaughan yn Eglwyswrw, Gogledd Sir Benfro ym 1937. Tyfodd Bryan i fyny yn y
pentref lle aeth i'r ysgol, ac mae'n cofio effaith yr Ail Ryfel Byd yn dda, gan gynnwys dogni a’r
milwyr America yn cyrraedd. Ar ôl gadael yr ysgol daeth Bryan yn brentis mecanig yn Eglwyswrw,
gan weithio ar geir, tractorau a llawer o fathau eraill o gerbydau. Bu'r brentisiaeth hon o fantais
fawr i Bryan am ei ddwy flynedd fel Milwr Cenedlaethol lle gwasanaethodd fel gyrrwr yn y
Magnelau Brenhinol.
Ym mis Mai 1956, derbyniodd Bryan ei bapurau yn galw fo lan am Gwasanaeth Cenhedlaethol ac
er y gallai fod wedi gohirio ei wasanaeth tan ei fod yn 21 oed oherwydd ei brentisiaeth, roedd
Bryan 'eisiau gweld y byd', ac felly dewisodd fynd i'r Fyddin ar unwaith.
Gwasanaeth Cenedlaethol: Hyfforddiant
Ar ôl ei archwiliad meddygol, cafodd Bryan ei bostio i Groesoswallt am hyfforddiant sylfaenol cyn
cael ei anfon i hyfforddi fel gyrrwr am y 12-15 wythnos nesaf ym Mharc Cinmel, ger Abergele. Mae
yna ffotograffau yng nghasgliad Bryan sy'n darlunio ei wasanaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gall chi dod o hyd i hanes hyfforddiant y Fyddin sydd wedi digwydd ym Mharc Cinmel ers rhyfel
1914-1918 ar dudalen Wicipedia Ardal Hyfforddi, Parc Cinmel.
Ar ôl pasio ei hyfforddiant crefft fel gyrrwr, cafodd Bryan ei anfon i Arsenal Woolwich yn Llundain.
O'r fan honno cafodd Bryan, â thua deg dynion arall, o’i bostio i'r "Gwarchodlu Brenhinol" i
hyfforddi yng Ngwersyll Pirbright yn Surrey. Yma, rhoddwyd hyfforddiant arfau i Bryan i'w baratoi
ar gyfer gwasanaeth yn y Magnelau Brenhinol dramor. Ar ôl deg diwrnod o hyfforddiant a
dychweliad byr i Woolwich, ffeindiodd Bryan ei hun ym Maes Awyr Blackwood, ar gyfer hediad i
Singapore. Cymerodd yr hediad ei hun 5 diwrnod gyda stopiau tanwydd.
Malaya
Yn Singapore, derbyniodd Bryan a'i gyd-filwyr yn y 75fed Batri o Gatrawd Maes 48, Magnelau
Brenhinol, 'hyfforddiant jyngl' cyn cael eu hanfon i Malaya, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i ddwy
flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol. Ar 31ain o Awst 1957, cafodd Malaya annibyniaeth o Brydain
ac mae Bryan yn cofio'r digwyddiad nodedig hwn yn hanes Malaya.
Mae Bryan yn cofio bod ei dasg ym Malaya oedd cynnal a chadw'r cerbydau, ac roedd hyn yn
cynnwys patrolau chwe wythnos yn jyngl Malaya. Mae'n disgrifio byw mewn Cytiau ‘Nissen’ a
oedd yn darparu llety sylfaenol iawn heb ddŵr poeth. Mae'n disgrifio gwres a lleithder Malaya a'r
monsŵns, ond hefyd yr hinsawdd wleidyddol a gorfod clirio bwledi heb eu defnyddio a oedd yn
weddill o'r Ail Ryfel Byd. Mae'n cofio ei ffrindiau, y ‘NAAFI’, yn mwynhau gorffwys ac adferiad ym
Mhenang er ei fod yn well ganddo beidio rhannu mwy o fanylion.
Ar y daith yn ôl adref ar y llong filwyr “Empire Fowey” teithiodd Bryan drwy Gamlas Suez ac mae’n
cofio’n glir bod angen i’r llong lywio drwy’r holl longau a oedd wedi cael eu difrodi neu eu ffrwydro
yn ystod y Rhyfel Suez.
Yn ôl i fywyd sifil
Cafodd Bryan ei ddadfyddino yn Hwlffordd. Nid oedd wedi dweud wrth ei fam a'i dad ei fod yn dod
adref. Ar ôl cyrraedd adref yn Eglwyswrw ym mis Mehefin, ni allai Bryan fynd yn ôl i weithio fel
mecanig tan fis Tachwedd, oherwydd roedd yn ofynnol iddo wasanaethu yn y Fyddin Diriogaethol.
Cwblhaodd y Gwniwr Bryan Vaughan dair blynedd a 160 diwrnod pellach o wasanaeth fel aelod
o'r Fyddin Wrth Gefn Argyfwng cyn derbyn ei bapurau rhyddhau terfynol ar y 6ed o Rhagfyr 1961
ar ôl gwasanaethu ei wlad am bum mlynedd a hanner.
Mae Bryan wedi parhau i weithio gyda cherbydau drwy gydol gweddill ei yrfa waith fel mecanig.
Mae ganddo ddwy ferch ac wyrion, ac mae’n byw yn Aberporth.
Mae'r adroddiad naratif hwn o Wasanaeth Cenedlaethol, a gasgliad o lluniau personal Bryan i'w
gael yng nghasgliad Gwasanaeth Cenedlaethol Bryan Vaughan yn Archif Cyn-filwyr Gorllewin
Cymru, gwefan Casgliad y Werin Cymru.
Mae pob hawl, gan gynnwys hawliau cyhoeddi i'r erthygl hon, yn perthyn i Bryan Vaughan, neu ei
fuddiolwr uniongyrchol pe bai'n marw.
Mae hawliau cyhoeddi i ddeunydd gafodd eu defnyddio i gwblhau’r ddogfen hon yn aros gyda’r
cyhoeddwr gwreiddiol.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment