Skip to main content

Dydd Gŵyl Dewi ym Mro Morgannwg

Yn flynyddol ar Fawrth 1af, mae Dydd Gwyl Dewi, yn cael ei ddathlu i nodi diwrnod cenedlaethol Cymru. Mae'n dathlu bywyd Dewi Sant, nawddsant Cymru, a fu farw ar y diwrnod hwn yn 589 OC. Yn fab i'r Santes Non, cafodd ei eni yn Sir Benfro a'i fagu yn Henfynyw, Ceredigion. Yn blentyn, iachaodd Dewi Sant ei athro dall, Paulinus, trwy osod ei ddwylo dros lygaid y dyn. Digwyddodd un o wyrthiau mwyaf adnabyddus Dewi Sant yn Llanddewi Brefi, lle y cododd bryn er mwyn i'r torfeydd ei weld a'i glywed yn well. Fel llysieuwr trwy gydol ei oes, nid oedd Dewi yn bwyta cig nac yfed alcohol, felly rhoddwyd y llysenw Dewi Dyfrwr iddo. Adeiladodd fynachlog yng Nglyn Rhosyn, a ddatblygodd maes o law yn eglwys gadeiriol a dinas Tyddewi.

Heddiw, mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu yng Nghymru a ledled y byd gan Gymry drwy wisgo’r wisg genedlaethol, bwyta cawl a phice ar y maen, a gorymdeithiau. Mewn ysgolion a grwpiau eraill, cynhelir eisteddfodau hefyd a chanir caneuon. Rhan bwysig arall o’r diwrnod yw dilyn cyngor olaf Dewi Sant, ‘Gwnewch y pethau bychain’.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment